LUISS Guido Carli

Sefydlwyd ym 1974, mae LUISS Guido Carli yn Rhufain yn y cymdogaethau bywiog Parioli a Trieste. Ar y campws, bydd myfyrwyr yn dod o hyd i amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys caffi, cymorth a chyngor academaidd, gwasanaethau gyrfaoedd a thimau chwaraeon. Yn 2013, bu yn y safle cyntaf ar gyfer Gwyddor Wleidyddol ac yn yr ail safle ar gyfer y Gyfraith ac Economeg ymhlith y prifysgolion preifat. Mae Rhufain yn elwa ar hinsawdd Ganolforol nodweddiadol; canol y gwanwyn a'r hydref yw'r adegau mwyaf cyfforddus ac mae'r tymheredd yn uwch na 32°C yn ystod yr haf.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.