Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir y brifysgol yn Turku, y ddinas hynaf yn y Ffindir, dwy awr mewn car o Helsinki. Mae'r hafau yn Turku yn gynnes a'r gaeafau'n oer gydag eira yn rheolaidd a thymereddau o dan y rhewbwynt fel arfer. Mae'r brifysgol yn un o'r sefydliadau mwyaf blaenllaw yn y Ffindir ac mae digonedd o bethau i chi eu gwneud y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Nid oes llety ar gael ar y campws ond gall y Swyddfa Ryngwladol eich cyfeirio at ddarparwyr allanol.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.