Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Prifysgol gyhoeddus sy'n derbyn grantiau haul a thir yw Prifysgol Tennessee, yn Knoxville, Tennessee. Mae gan Brifysgol Tennessee dros 450 o sefydliadau cofrestredig i fyfyrwyr, gan ddarparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau, gan gynnwys chwaraeon, celfyddydau, gweithgareddau cymdeithasol, llywodraethu, materion diwylliannol a chymdeithasau Groegaidd. Gallwch hefyd ddangos eich cefnogaeth i’r ‘Gwirfoddolwyr’ a’u masgot ‘Smokey’, trwy wisgo oren a gwyn, a ddewiswyd fel lliwiau’r ysgol oherwydd y llygad y dydd oren a gwyn sy’n tyfu o amgylch y campws.

Lleolir Knoxville, sef un o'r dinasoedd mwyaf yn rhanbarth Appalachaidd, yng Nghwm Mawr yr Appalachiaid (a adwaenir yn lleol fel Cwm Tennessee) tua hanner ffordd rhwng Mynyddoedd Great Smoky a Llwyfandir Cumberland. Gan fod hinsawdd isdrofannol, laith yn yr ardal, yr haf yw cyfnod twymaf y flwyddyn, er nad yw cyn boethed ag ardaloedd deheuol a gorllewinol oherwydd ei huchder uwch. Mae'r gaeaf yn llawer oerach ac yn llai sefydlog yn gyffredinol a bydd hi'n bwrw eira o bryd i'w gilydd. Knoxville yw dinas ganolog Ardal Fetropolitan Knoxville ac mae'n gartref i amrywiaeth o sectorau gan gynnwys Cyllid, Gweithgynhyrchu, Masnachu, Technoleg ac Ymchwil. Gydag oddeutu 182 o ganolfannau siopa a ffatrïoedd a thros 2,400 o leoedd masnachu, bydd digon i chi ei fwynhau yn ystod eich arhosiad.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.