Stadiwm llawn ar ddiwrnod braf yn Darrell K Royal–Texas Memorial Stadium

Lleolir y Brifysgol yn Austin, sef prifddinas Talaith Tecsas, oddeutu 3 awr o Dallas a Houston. Ceir hafau hir, poeth a gaeafau byr, mwyn yn Austin, ac mae'r haul yn tywynnu drwy gydol y flwyddyn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio eli haul! Mae'r brifysgol  ymysg y prifysgolion ymchwil gorau yn y wlad felly rydych yn siŵr o gael profiad dysgu o safon. Adwaenir myfyrwyr yn UTAustin fel Longhorns ac mae brwdfrydedd a balchder Longhorn yn dra amlwg, yn enwedig ar ddiwrnod gemau. Mae myfyrwyr yn aml yn canu ‘Texas Fight’, cân ymladd y brifysgol wrth arddangos ystum llaw ‘Hook ‘em Horns ’- yr ystum yn dynwared cyrn masgot yr ysgol ‘Bevo’ y Texas Longhorn. Gall myfyrwyr sy'n mynd i Austin gyflwyno cais am lety ar y campws sy'n golygu y gallwch fod yng nghanol digwyddiadau.   

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.