Florida State University ar gat ar y ffordd mewn i'r campws

Sefydliad addysgu ac ymchwilio a gydnabyddir yn rhyngwladol yw Prifysgol Talaith Fflorida, a ddosbarthwyd yn “Brifysgol Ymchwil gyda Safon Ymchwil Uchel Iawn” gan Sefydliad Carnegie. Mae rhai o’r Colegau mwyaf poblogaidd yn cynnwys y Celfyddydau a’r Gwyddorau, Busnes, Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Gwyddoniaeth Ddynol. Mae myfyrwyr blaenorol wedi cael cyfle i weithio ochr yn ochr ag enillwyr Gwobrau Nobel a Gwobrau Pulitzer, Cymrodorion Guggenheim ac athrawon ac ymchwilwyr eraill a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae'r Brifysgol yn cynnig Canolfan Hamdden i Fyfyrwyr sy'n cynnwys 120,000 o droedfeddi sgwâr yn nghanol y campws, gyda thros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd grŵp wythnosol am ddim, a gynigir ar y cyd â hyfforddiant personol a ardystiwyd gan NSCA. Mae'r cyfleuster hwn yn cynnwys tri chwrt pêl-fasged o'r maint cywir yn ôl rheoliadau, pwll nofio ac ardal sba sy'n cynnwys trobyllau, ystafelloedd ager a sawna. Ac, os nad ydych wedi ymlacio gormod wedi hynny, gallwch dreulio'ch amser yn gwylio lliwiau Prifysgol Talaith Fflorida garned ac aur, a wisgir gan dimau chwaraeon rhyng-golegol "Pobl Seminole Talaith Fflorida". Yn ystod hanes 113 o flynyddoedd Prifysgol Talaith Fflorida, mae'r timau chwaraeon sy'n ei chynrychioli wedi ennill 20 o bencampwriaethau athletaidd cenedlaethol ac mae athletwyr Seminole wedi ennill 78 o bencampwriaethau cenedlaethol NCAA unigol. P'un a ydych yn mynd â'ch ffrindiau i fowlio yn Crenshaw Lanes, yn gwylio ffilm yn Student Life Cinema neu'n darllen ac yn ysgrifennu ar gyfer papur newydd y campws, rydych yn siŵr o dreulio cyfnod bythgofiadwy ym Mhrifysgol Talaith Fflorida.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Myfyriwr

Adeilad crand brics coch gyda ffynnon o'i flaen ar gampws Prifysgol Talaith Florida