Partner University Image

Mae Prifysgol Talaith Montana (MSU) yn Bozeman, Montana ac mae mwy na 16,700 o fyfyrwyr yn mynd yno, sy'n golygu ei bod hi’n brifysgol fwyaf y dalaith. Llysenw timau athletaidd MSU yw'r Bobcats ac mae'r lliwiau glas ac aur yn eu cynrychioli. Am bron 30 mlynedd, mae MSU wedi cynnal rownd derfynol genedlaethol Rodeo'r colegau. Mae timau Rodeo'r Bobcats wedi ennill 8 teitl tîm cenedlaethol, 32 o bencampwriaethau cenedlaethol unigol a nifer o goronau rhanbarthol Big Sky. Mae gan MSU fwy na 300 o glybiau a chymdeithasau, felly mae digon o gyfle i gymryd rhan ym mywyd y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.