Adeiladau'r Brifysgol a llyn

Prifysgol gyhoeddus gydaddysgol yw Prifysgol Oklahoma Canolog, y cyfeirir ati’n aml fel UCO, yn Edmond, Oklahoma. Rhestrwyd Edmond fel un o’r “100 o leoedd gorau i fyw ynddynt yn 2007” gan Relocate America ac mae gan yr ardal boblogaeth o oddeutu 81,405. Gyda mwy na 200 o sefydliadau myfyrwyr a channoedd o ddigwyddiadau, mae Prifysgol Oklahoma Canolog yn ei gwneud hi’n hawdd i fyfyrwyr ddod o hyd i’w traed. Mae Jazz Lab y brifysgol yn gartref i Adran Astudiaethau Jazz enwog yr Ysgol Gerddoriaeth, ac mae rhwydwaith cyfryngau’r myfyrwyr yn cynnwys cymysgedd o gyfryngau traddodiadol (teledu, radio a phapurau newydd) a chyfryngau newydd (y we, darllediadau rhwydweithiau, rhwydweithio cymdeithasol) a grëwyd gan fyfyrwyr a astudiodd cyfryngau proffesiynol fel eu prif bwnc. Bydd digon o ddigwyddiadau chwaraeon i’ch difyrru yn ystod eich arhosiad felly dewch i gefnogi timau chwaraeon Prifysgol Oklahoma Canolog, a adwaenir fel y Bronchos. Mae gan Edmond hinsawdd laith, isdrofannol, gyda’r tywydd yn amrywio o bryd i’w gilydd yn ystod y flwyddyn, ac mae’r hafau bob amser yn boeth. Mae sychderau hir a difrifol yn aml yn arwain at danau gwyllt ac mae glawiad trwm yn aml yn arwain at fflachlifogydd a llifogydd.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Myfyriwr

logo chwaraeon y brifysgol