Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir UIC nid nepell o Zhuhai yn Tsieina. Nid yw'n bell ychwaith o Macau a gall myfyrwyr fynd i Hong Kong ar y fferi. Hafau poeth a mwll gyda stormydd mellt a tharanau rheolaidd a geir yn Zhuhai. Mae'r gaeafau'n fyr, yn fwyn ac yn sych. Mae llety ar gael i fyfyrwyr ar y campws a bydd y sawl sy'n rhannu ystafell â chi yn cyfarfod â chi pan fyddwch yn cyrraedd Tsieina.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.