Myfrywyr yn astudio gyda'i gilydd

Lleolir y brifysgol hon yn Singapôr. Nid oes unrhyw dymhorau penodol yn Singapôr ac mae'r tymheredd yn cyrraedd yr ugeiniau uchel ar gyfartaledd. Mae'r brifysgol yn y 12fedsafle yn fyd-eang yn ôl QS Rankings, gan berfformio'n arbennig o dda ym meysydd Busnes a Pheirianneg. Mae ganddi gysylltiadau hefyd â rhai o'r cwmnïau technoleg mwyaf blaenllaw yn y byd. Mae'r brifysgol yn adnabyddus am ei champws gardd eco-gyfeillgar sy'n defnyddio technoleg ddeallus. Mae llety ar gael i fyfyrwyr cyfnewid ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.