Myfyrwyr yn eistedd o amgylch bwrdd yn astudio

Lleolir y brifysgol ar gyrion Barcelona ac mae’n agos at Barc Natur Serra de Collserola. Gallwch ddisgwyl gaeafau mwyn a hafau poeth. Mae’r brifysgol yn adnabyddus am ei hansawdd addysgu a’i hymchwil rhagorol a dyma’r 145ain brifysgol orau yn nhabl cynghrair y byd y THE. Gall myfyrwyr sy’n dod i UAB ddewis i ymgymryd â chyrsiau Catalaneg i’w helpu i gynefino â bywyd yng Nghatalonia.  Mae nifer y lleoedd yn neuaddau’r myfyrwyr yn gyfyngedig felly byddwch yn barod i chwilio oddi ar y campws am lety a dechreuwch y broses cyn gynted â phosib.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.