Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Lodz (a ynganir 'Woodge') yng Ngwlad Pwyl, awr a hanner o Warsaw. Mae'r gaeafau yn Lodz yn oer gyda thymereddau o dan y rhewbwynt. Mae'r hafau'n fwynach. Prifysgol Lodz yw un o'r rhai mwyaf yng Ngwlad Pwyl ac mae'n aml yn croesawu siaradwyr gwadd o wleidyddion adnabyddus i bobl fusnes a chynrychiolwyr diwylliannol. Bydd y brifysgol hefyd yn cynnig Cwrs Pwyleg dewisol i'ch helpu i ymgyfarwyddo â'r iaith pan fyddwch yn byw yno. Mae llety ar gael i fyfyrwyr cyfnewid ar y campws ond ni ellir gwarantu y bydd lleoedd ar gael.