Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Mae Leuven yn ddinas ddeinamig sy’n ffynnu yn rhanbarth Ffleminaidd Gwlad Belg, ac mae’n dref brifysgol go iawn. Dyma’r man dechrau delfrydol i ddarganfod gweddill y wlad: Mae Brwsel dafliad carreg i ffwrdd 20km i’r dwyrain o Leuven, mae’r arfordir 1.5 awr yn unig i ffwrdd ar drên ac mae Antwerp, Bruges, Ghent a Liege ar garreg y drws. Mae gan Leuven rywbeth at ddant pawb: bywyd nos bywiog, safleoedd hanesyddol diddorol a hardd, dwy stryd siopa ddi-ben-draw ac wrth gwrs, siocledi Belgaidd i’r rhai sy’n dwlu ar siocled!Mae Leuven yn cynnig amrywiaeth o opsiynau o ran tai i fyfyrwyr, sy’n amrywio o neuaddau preswyl i fflatiau stiwdio, a gall gwasanaethau tai Leuven gynorthwyo myfyrwyr wrth chwilio am lety.