Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Université Rennes 2 yn Rennes, prifddinas Llydaw yng ngorllewin Ffrainc. Hon yw'r ganolfan fwyaf ar gyfer ymchwil ac addysg uwch ym meysydd y celfyddydau, llenyddiaeth, ieithoedd, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol yng ngorllewin Ffrainc ac mae ei henw da yn y meysydd academaidd hyn yn golygu ei bod yn ddewis ardderchog ar gyfer myfyrwyr cyfnewid sy'n astudio Saesneg. Mae gan y brifysgol dri champws, a chewch eich lleoli ar gampws Villejean, sef y mwyaf o'r tri. Mae'r brifysgol yn gyfoethog o ran y celfyddydau a diwylliant, yn enwedig campws Villejean sydd â sawl safle diwylliannol ac sy'n cyflwyno rhaglen gyfoethog drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, mae galw mawr am lety felly dylech wneud cais cyn gynted â phosibl pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn fyfyriwr cyfnewid.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.