Myfrywyr yn astudio gyda'i gilydd

Pau yw prifddinas Pyrenees-Atlantiques sy'n gartref i Fasgwyr a phobl Béarn. Mae'n lleoliad perffaith ar gyfer darganfod de-orllewin Ffrainc a mynyddoedd y Pyrenees felly, os yw hynny'n mynd â'ch bryd, yna Pau yw'r lle delfrydol i chi. Mae Université de Pau et des Pays de l'Adour yn brifysgol â rhwydwaith o bum campws ac, os byddwch yn penderfynu treulio cyfnod yno fel myfyriwr cyfnewid, byddwch wedi eich lleoli yn Pau: campws y ddinas. Fe'i lleolir wrth droed mynyddoedd y Pyrenees, dim ond awr i ffwrdd oddi wrth ganolfannau sgïo, sy'n berffaith os ydych yn mwynhau'r gamp! Mae tua 60 o gymdeithasau myfyrwyr ac mae'r brifysgol yn gyfoethog ei diwylliant gyda chyngherddau a sioeau byw (theatr, dawns, y syrcas) yn cael eu cynnal rhwng mis Medi a mis Mehefin. Mae'r CROUS lleol (canolfan gwasanaethau myfyrwyr y brifysgol) yn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i lety – naill ai ar y campws neu mewn llety preifat yn y dref.