Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd

École Supérieure des Sciences Commerciales d’Angers (ESSCA) yw un o'r ysgolion busnes gorau yn Ffrainc. Mae Angers yn ddinas gyfeillgar o faint canolig sy'n addas i fyfyrwyr ac fe'i lleolir yng nghanol Cwm Loire ar gyrion Llydaw, 1.5 awr yn unig o Baris ar y TGV (trên cyflym iawn). Gyda hinsawdd gefnforol, mae'r hafau'n dwym ac yn heulog a cheir rhew ac eira'n ysbeidiol yn y gaeaf. Byddwch ar gampws Belle Beille yng nghanol parc, a chan y byddwch mor agos at safleoedd diwylliannol a hanesyddol, bydd llawer o bethau i chi eu gweld a'u gwneud. Gall Gwasanaethau Myfyrwyr ESSCA gynorthwyo myfyrwyr wrth iddynt chwilio am lety yn y ddinas.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.