Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Wedi'i lleoli yn ninas fywiog Montreal yn Québec, gyda Montreal wedi’i phleidleisio fel y ddinas orau i fyfyrwyr yng Ngogledd America rydych chi'n gwybod eich bod chi am gael amser gwych. Mae dwyieithrwydd yn rhan bwysig o gymeriad Montreal, ond mae’n hawdd i siaradwyr Saesneg ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas. Mae 4 tymor penodol gan Montreal, ac mae’n cyrraedd  26° Celsius ar gyfartaledd yn yr haf ac isafswm o -5° Celsius yn y gaeaf. Mae Concordia  ymysg 25 prifysgol ymchwil orau Canada, ac mae ganddi ddosbarthiadau maint bach ac athrawon arobryn. Fel rheol, gall myfyrwyr gael  llety ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Myfyriwr

Myfyriwr gyda baner