Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Mae Prifysgol Brock yn Saint Catherine, Ontario. Dafliad carreg o Niagara Falls, Toronto a’r ffin ag UDA, mae digonedd i’w weld yn eich amser hamdden. Yn un o’r dinasoedd cynhesaf yng Nghanada, gallwch ddisgwyl hafau cynnes a gaeafau ychydig yn fwy garw na rhannau eraill o Ganada. Mae Prifysgol Brock yn meithrin rhagoriaeth o ran addysgu a dysgu ac mae’n ymrwymedig i les a llwyddiant myfyrwyr. Mae Brock yn cynnig cartref oddi cartref oherwydd ei bod yn cynnig opsiynau fforddiadwy o fyw a naws gymunedol. Fel rheol, gall myfyrwyr gael mynediad i lety ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.