Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Yn Edmonton, Alberta, nid yw’r Brifysgol yn rhy bell o barciau cenedlaethol Banff a Jasper. Mae gan Edmonton bedwar tymor amlwg, a gall y tymheredd amrywio’n sylweddol o 35° yng nghanol yr haf i -40° Celsius yn y gaeaf – byddwch yn barod am lawer o eira! Prifysgol Alberta yw un o sefydliadau Addysgu ac Ymchwil blaenllaw Canada, ac mae myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn gallu cymryd rhan yn yr ymchwil a gynhelir. Mae digon o weithgareddau a chwaraeon i gymryd rhan ynddynt ar y campws ac i’ch cadw’n brysur y tu hwnt i’ch astudiaethau. Fel arfer caiff myfyrwyr fyw ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Myfyrwyr

Myfyrwyr yn dal fflag