Casgliad Living Books - Hanes Oral
Mae Llyfr Byw yn rhywun sydd â stori i'w hadrodd. Gallai hyn fod oherwydd profiad a gawsant neu oherwydd agwedd ar eu hunaniaeth. Yn aml, daw Llyfrau Byw o gymunedau sydd wedi'u hymyleiddio. Fodd bynnag, gall unrhyw un sydd â safbwynt i'w rannu fod yn Llyfr Byw. Caiff Llyfrau Byw eu 'benthyca' ar gyfer sgwrs bersonol gyda rhywun sydd eisiau dysgu mwy amdanynt. Yn 2025, cychwynnodd Adran y Llyfrgelloedd a Chasgliadau ar brosiect 'Reading Lounge' i recordio ac archifo 'Llyfrau Byw' o gymuned Prifysgol Abertawe. Mae'r fideos sy'n deillio o hyn wedi'u hychwanegu at Archifau Richard Burton. Rydym yn rhannu'r recordiadau â chi yma er mwyn hwyluso mynediad, dathlu ein cymuned brifysgol amrywiol a meithrin gwell dealltwriaeth.
Mae sgwrs gyda Llyfr Byw yn brofiad personol iawn. Mae barn y Llyfrau Byw a'u Darllenwyr yn eiddo iddynt hwy eu hunain ac nid ydynt yn adlewyrchu barn y brifysgol. Gall pynciau'r sgwrs fod yn sensitif ac yn emosiynol. Os ydych yn cael eich effeithio gan unrhyw un o'r materion a drafodir yn y recordiadau, cysylltwch â'r gwasanaethau cymorth lles.
Llyfrau Byw - Mandy Jack
Gwyliwch drafodaeth llyfr byw Mandy yma.
Nid yw'r Brifysgol i mi gan Mandy Jack
Pan oeddwn i'n 18 oed, nid oeddwn i'n credu bod gen i'r gallu i fynd i'r Brifysgol, nid oeddwn i'n gallu cwblhau'r ffurflen gais heb wneud camgymeriad. Beth yn y byd oedd yn bod arnaf i? Felly doedd dim gobaith! Erbyn i mi gyrraedd 27 oed, meddyliais y byddwn i wrth fy modd yn bod yn athrawes... Byddai hynny'n golygu ennill gradd, ond erbyn hyn roeddwn i wedi darganfod cyfrifiaduron, felly efallai... Pan oeddwn i'n 35 oed, roedd gen i ddau blentyn ifanc, ond roedd y freuddwyd o fod yn athrawes yn parhau...ac roeddwn i'n dda iawn am wneud i bobl feddwl fy mod i'n gallu ysgrifennu, diolch i fy sgiliau digidol! Felly, cyflwynais gais i astudio yn y Brifysgol ac, er mawr syndod i mi, cefais fy nerbyn....a dechreuodd y daith. Dysgais yn gyflym fod addysgu'n fwy na gyrfa'n unig, daeth addysgu'n ffordd o fyw. Rydw i wedi dysgu nifer o wersi annisgwyl gan fy nisgyblion mewn lleoedd dysgu amrywiol - gwersi am amynedd, pwrpas a phŵer cysylltiad, ac offer digidol, diolch byth!
"Mae hynny'n ddiog" gan Pamela Styles
Mae gennyf syndrom tacycardia ystumiol hyperadrenergig, ffurf etifeddol ar dysawtonomia a lywiodd pwy oeddwn i a sut roeddwn i'n byw fy mywyd, cyn i mi wybod hyd yn oed fod gen i'r cyflwr, a chyn iddo gael ei ddisgrifio'n feddygol. Mae profion a wneir ar bobl sydd â’r un cyflwr â mi yn dangos eu bod mewn cyflwr a ystyrir yn gyflwr 'llawn straen' i berson iach, hyd yn oed pan fyddant yn cysgu! Pan ddechreuodd y symptomau effeithio’n ddifrifol arnaf i, addasais fy mywyd, ac rydw i wedi sylwi sut mae rhai pobl - pobl rydw i'n eu hadnabod a dieithriaid - wedi newid eu hymddygiad tuag ataf o ganlyniad i hynny. Rydw i hefyd wedi gallu myfyrio ar sut gwnaeth fy system nerfol awtonomig orfywiog fy sbarduno i greu math penodol o fywyd ar gyfer fy hun, ac ar yr hyn mae cymdeithas yn ei ystyried yn 'ddilys' mewn perthynas ag anabledd, gan benderfynu a yw rhywun yn deilwng o dosturi a chymorth neu beidio.
Llyfrau Byw - Pam Styles
Gwyliwch drafodaeth llyfr byw Pam yma.
Llyfrau Byw - Gareth Noble
Gwyliwch drafodaeth llyfr byw Gareth yma.
Bod yn fi fy hun, a Lles fy hun gan Gareth Noble
Dyfyniad gan fy nhad-cu yw un o fy hoff ddyfyniadau. Gofynnais i iddo beth oedd ystyr bywyd, a dywedodd “Mae bywyd yn gasgliad o straeon a ddylai ddifyrru pawb o gwmpas dy wely angau”. Drwy gydol fy mywyd, hyd yn hyn, mae rhai o fy straeon yn amlygu'r cyfnodau da, ac mae rhai straeon wedi'u gwreiddio yn nhrawma profiadau'r gorffennol sy'n adlewyrchu'r cyfnodau gwael. Maen nhw'n esgyn ac yn disgyn fel tonnau o emosiwn rhwng y digrif a'r digalon.
Cefais fy magu mewn talaith a oedd mewn gwirionedd yn ddwy wlad mewn un, dwy gymuned a oedd wedi'u rhannu ar sail hunaniaethau diwylliannol a gwleidyddol. Roeddech chi naill ai'n ffyddlon i'r goron neu eisiau uno i greu un Iwerddon.
Gall y cyferbyniadau hyn o ran hunaniaeth eich diffinio a'ch grymuso, ond gallant hefyd eich caethiwo. Datblygodd fy hunaniaeth drwy fyw drwy'r gwrthdaro hwnnw, ac mae’r ymdrech hon i gydbwyso bod yn Gatholig mewn tref a oedd yn bennaf yn dref Brotestannaidd, yn rhan annatod ohonof.
Wrth i amser fynd rhagddo, mae fy ymdeimlad a'm profiad o’m hunaniaeth wedi newid oherwydd iddo gael ei lunio a'i lywio gan y profiadau cadarnhaol a negyddol rydw i wedi eu profi. Fodd bynnag, mae'n ymdrech gyson i sicrhau cydbwysedd a phan ddaw hynny’n ansicr, mae'n effeithio ar fy lles. Rydw i'n dad, yn bartner, yn ofalwr sy'n gweithio, yn addysgwr, yn ymgyrchydd, yn eiriolwr, yn unigolyn niwroamrywiol, yn academydd dyslecsig, yn wyddonydd, yn Wyddel balch ac yn frodor balch o Ulster. Mae'r casgliad o straeon sydd gennyf i'w rhannu yn esbonio sut datblygais i fod y person rydw i heddiw, a gobeithio y byddant yn eich diddanu.
Bywyd gyda streipiau gan Kirsty Hill
Mae sebras yn aml yn cael eu defnyddio fel symbol ar gyfer cyflyrau meddygol prin, yn seiliedig ar ddyfyniad gan Dr Theodore Woodward:
“When you hear hoofbeats, think horses, not zebras.”
Nid yw bywyd bob tro'n ddu a gwyn, nid yw bob tro'n cydymffurfio â llinellau syth, ac yn sicr, nid yw fy mywyd i'n eithriad. Cefais fy ngeni â syndrom Fraser (cyflwr genynnol prin iawn), felly mae fy mywyd wedi bod yn llawn labeli: 'byddar-ddall', 'anabl', ac mae pob un ohonynt wedi effeithio ar fy ymdeimlad o gynhwysiant, a'r disgwyliadau sydd gan eraill ohonof. Treuliais lawer o flynyddoedd yn teimlo'n unig, nid oeddwn i eisiau derbyn fy nghyflwr fel rhan o bwy ydw i oherwydd nid oeddwn i'n teimlo bod pobl yn fy neall, fel mai fi oedd yr unig un yn y sefyllfa hon.
Llyfrau Byw - Kirsty Hill
Gwyliwch drafodaeth llyfr byw Kirsty yma.
Fodd bynnag, wrth i mi ddatblygu nifer o gyflyrau cronig (yn ogystal â fy anableddau presennol) yn ystod fy arddegau, dysgais fod cael label weithiau'n gallu cynnig atebion, gan daflu goleuni ar ddyfnder materion a all fod yn anweladwy i eraill.
Felly dyma fi, sebra arall, wedi goroesi nifer o lawdriniaethau/feddyginiaethau, ac mae'n debygol y bydd angen rhagor arnaf yn y dyfodol. Mae'r dyfodol yn parhau i fod yn ansicr, ond rydw i'n falch o arddangos fy unigrywiaeth, ac yn benderfynol o ddangos fy streipiau!
Llyfrau Byw - Theresa Ogbekhiulu
Gwyliwch drafodaeth llyfr byw Theresa yma.
Croesawu Newid: Fy Nhaith o Nigeria i Brifysgol Abertawe gan Theresa Ogbekhiulu
Roedd symud o Nigeria i Brifysgol Abertawe, lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn wyn, yn ffactor hollbwysig yn fy nealltwriaeth o beth mae'n ei olygu i fod yn rhan o leiafrif. Er bod yr amrywiaeth ddiwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe'n amlwg, roeddwn i bob tro'n credu y gellid gwneud mwy i sicrhau bod myfyrwyr a staff yn teimlo ymdeimlad o berthyn yn y diwylliant newydd hwn. Felly yn lle sefyll ar yr ymylon, penderfynais weithredu'n rhagweithiol dros newid, drwy ymgymryd â rôl arweinyddiaeth myfyrwyr, gan ddylanwadu ar bolisi ac ar arweinyddiaeth y Brifysgol, ac erbyn hyn rydw i'n cyfrannu'n uniongyrchol at y newidiadau hyn yn fy rôl fel aelod staff ac aelod rhagweithiol o'r gymuned yn Abertawe. Rydw i wedi penderfynu fy mod yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth mewn nifer o ffyrdd.
Cefais fy ngeni o bridd cysegredig... gan Allison Hulmes
Cefais fy ngeni o bridd cysegredig, lle canai’r dyffrynnoedd yn dyner, a lle mae’r ddraenen wen yn gwarchod y gwrychoedd lle mae ehedyddion yn esgyn ar adenydd cân .
Yng nghrud bryniau Cymru, o dan awyr a gysgodir gan ddreigiau, dawnsiodd fy anadl gyntaf gyda mwg y tanau a gyneuwyd gan ein cyndeidiau. Mae fy ngwaed wedi'i wehyddu â grug, yr onnen a nant y mynydd; mae fy hwiangerdd yn sibrwd o freuddwyd sy'n ganrifoedd oed.
Byth heb wreiddiau, fe wnaethom grwydro fel yr afonydd, gan ysgythru straeon ar y llethr a adwaenai’r dderwen a’r helygen. Canai'r beirdd gynt am grïoedd brwydrau a chariadon a droswyd yn gerrig, ond daethom ninnau â straeon am sêr yn dawnsio a cheffylau wedi'u cerfio o esgyrn.
Llyfrau Byw - Allison Hulmes
Gwyliwch drafodaeth llyfr byw Allison yma.
O amgylch y tân, gwnaethom eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth – pob chwedl yn fflam fyw o ddoethineb Chavy Hani – a phob un yn wahanol. Siaradem yn yr iaith a anghofiodd y Mush, ond y gallai Rackley ei chlywed o hyd, hen eiriau fel gweddi neu broffwydoliaeth, sydd bellach yn pylu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae ein plant yn ei dysgu, yn araf ac yn dyner, mewn hwiangerddi a chaneuon, ac er gwaethaf pob ymgais i'w distewi, mae ein hiaith yn dal i fod yn eiddo i ni.
Fe’i ganwyd nid o ffiniau, ond o anadl, o rythm, pridd a chân; o ddwylo a adeiladodd y certi lliwgar, a chalonnau sy'n perthyn o hyd.
Mae'r gwynt yn dwyn i gof ein hwiangerddi, mae'r afonydd yn adnabod ein halaw, mae'r mynyddoedd yn mwmian ein hanesion o dan y lleuad gwyliadwrus. Mae mythau Cymru yn ymdoddi â’n dreigiau coch, gwyllt a rhydd, y byd breuddwydiol lle mae’r Tylwyth Teg yn dal i ddawnsio o dan y goeden. Felly galwch fi'n Sipsi, yn Dincer, yn Deithiwr – rhowch label arnaf os oes rhaid, ond mae fy ngwaed yn hynafol, ac ni fydd fy nghof yn rhydu. Oherwydd cefais fy ngeni o bridd cysegredig lle nad yw lleisiau byth yn marw, ac mae bryniau Cymru
yn atseinio â hwiangerdd fy mhobl. Yn awr yn academydd, er y bu’r drws bob amser ar gau, gwthiais ef ar agor a cherdded yn syth drwyddo, ac yn awr rwy'n dysgu hedfan yn uchel.