Mae'r casgliad o bapurau sy'n ymwneud â'r teulu Dillwyn yn rhychwantu'r ddeunawfed ganrif a'r ugeinfed ganrif. Mae'r deunydd cynharaf yn cynnwys tablau achyddol a chofnodion y teulu Dillwyn 1750-1950; papurau William Dillwyn a’r teulu Dillwyn yn New England 1711-1858; papurau sy'n ymwneud â Lewis Weston Dillwyn c. 1778-1920; a phapurau, gohebiaeth a dyddiaduron preifat Lewis Llewelyn Dillwyn 1833-1955. Mae rhagor o wybodaeth am y casgliad ar gael yn y disgrifiad o'r casgliad a'r catalog ar-lein.

Yn ddiweddar, cyflwynwyd deunydd ychwanegol, sef dyddiaduron Amy Dillwyn (1845-1935), y diwydiannwr benywaidd cynnar, y swffragét a'r nofelydd, yn ogystal â phapurau eraill, gan gynnwys penillion amrywiol a gohebiaeth rhwng aelodau'r teulu.

Mae'r casgliad bellach ar gael i ymchwilwyr, diolch i garedigrwydd Dr David Painting, a gynigiodd bapurau'r teulu Dillwyn i Brifysgol Abertawe gyda chefnogaeth aelodau'r teulu. Mae Dr Painting yn arbenigwr ac yn awdur llyfrau am y teulu Dillwyn, yn enwedig Amy Dillwyn, ac mae ei waith yn cynnwys Amy Dillwyn gan David Painting (argraffiad newydd, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013).

I ddysgu rhagor am brosiectau a mentrau ymchwil sy'n ymdrin ag etifeddiaeth lenyddol, wyddonol a diwydiannol y teulu Dillwyn, ewch i wefan y Prosiect Dillwyn.