Roedd llawer o gynhyrchion ar werth yn Siop Cymdeithas Gydweithredol Doc Penfro ond yr hyn sy’n dal eich llygad yw’r poster am ei Chlwb Siocled.

Er bod cymdeithasau cydweithredol yn adnabyddus yn bennaf am dalu difidend rheolaidd i’w haelodau, roedd gan rai cymdeithasau gynlluniau cynilo llawer mwy creadigol, a threfnwyd clybiau a oedd yn canolbwyntio ar dymhorau neu gynhyrchion penodol, megis clwb y Nadolig ym Mhontycymer a chlwb siocled yn Nhoc Penfro.

Ymddengys mai’r llun hwn sy’n hysbysebu clwb siocled cymdeithas gydweithredol yw un o’r rhai prin a oroesodd, ond ceir dogfennau sy’n perthyn i glwb siocled Urdd y Merched yng Nghanolfan Hanes Lleol Walsall.

Chlwb Siocled