Myfyriwr yn edrych dan straen.

Gan y Cynghorydd Ysgrifennu i Gymheiriaid, Oliver Wilkin.

Fel myfyriwr ym myd addysg uwch, gall y pwysau i wella eich sgiliau ysgrifennu a dadansoddi fod yn llethol weithiau. Dyma deimlad rwy'n ei deimlo fel myfyriwr PhD hyd heddiw. Yn ystod fy ngradd israddedig a'm gradd Meistr, roeddwn i'n aml yn ei chael hi'n anodd mynd i'r afael â heriau datblygu academaidd ac roeddwn i'n teimlo'n rhwystredig oherwydd nad oeddwn i'n gallu ennill y marciau gorau mewn aseiniadau. Yn y postiad hwn, byddaf yn trafod sut gwnes i oresgyn yr anawsterau hyn a rhai arferion beirniadol sydd wedi bod o gymorth i mi.

Drwy gydol fy astudiaethau Safon Uwch, a'm gradd israddedig a'm gradd Meistr, cefais yr un adborth yn aml, hynny yw, roeddwn i'n rhy ddisgrifiadol ac roedd angen i mi fod yn fwy beirniadol. Fel myfyriwr prifysgol, mae'n hawdd iawn cymharu eich gwaith ysgrifennu â gwaith ysgrifennu eich cyd-fyfyrwyr, yn ogystal â natur soffistigedig yr adnoddau rydych chi'n eu darllen. Er y dylech chi bob amser ymdrechu i ennill y marciau gorau posib, mae'n rhaid i chi gofio hefyd eich bod chi yn y Brifysgol i ddysgu a'i bod hi'n cymryd amser i feithrin sgiliau ysgrifennu.

Dweud llai, dadlau mwy

Pan oeddwn i'n ysgrifennu aseiniadau, yn enwedig y rhai hynny a oedd o’r diddordeb mwyaf i mi, roedd cynifer o bynciau roeddwn i am eu trafod ac roedd cymaint o wybodaeth roeddwn i am ei dangos y daeth y rhain yn brif ffocws fy nhraethodau, yn hytrach nag ateb y cwestiwn. Cymerais i beth amser i sylweddoli ei bod hi'n well trafod nifer bach o gysyniadau'n fanylach, yn hytrach na mwy o gysyniadau mewn llai o fanylder.

Yn enwedig pan gyrhaeddais i'r cam lle byddai cwestiynau traethodau'n gofyn i mi "drafod yn feirniadol" neu "ddadansoddi'n feirniadol", sylweddolais i hefyd y gallwn i ddefnyddio strwythur fy aseiniadau i baratoi fy nadansoddiad. Er enghraifft, mae nodi'r ddadl rydych chi am ei chyflwyno neu'r casgliad rydych chi’n bwriad ei gyrraedd yn natganiad thesis y cyflwyniad yn ffordd wych o ddangos meddwl yn feirniadol o ddechrau traethawd. Yna, gallwn i gyfeirio at y ddadl hon neu'r casgliad disgwyliedig ym mharagraffau prif gorff fy ngwaith a defnyddio fy nadansoddiad i'w gefnogi.

Rhes o ffolderi academaidd.

Strwythuro Paragraffau ar gyfer Dadansoddi Beirniadol

Hefyd, mae defnyddio'r strwythur canlynol ar gyfer paragraffau prif gorff fy ngwaith yn fy helpu i sicrhau bod fy nisgrifiad bob amser yn cael ei ddilyn gan ddehongliad beirniadol:

  1. Brawddeg pwnc – gan ddefnyddio eich geiriau eich hun, rhowch drosolwg o ddiben y paragraff penodol a'i gysylltu â'r datganiad neu'r cwestiwn thesis, er mwyn dangos sut mae'n berthnasol.
  2. Esboniad – gan ddefnyddio eich ymchwil, disgrifiwch gysyniadau allweddol y paragraff; meddyliwch am beth rydych chi'n ysgrifennu.
  3. Dadansoddiad – dylech chi ddehongli'r wybodaeth rydych chi newydd ei disgrifio drwy drafod ei goblygiadau ehangach, cymharu a chyferbynnu, a barnu ei harwyddocâd, ei hagweddau cadarnhaol neu negyddol etc. er mwyn ateb y cwestiwn. Dylai'r dadansoddiad ganolbwyntio ar eich dadl ac mae'n rhaid ategu pob barn â gwybodaeth o'ch esboniad ac ysgolheictod sy'n cytuno â chi. Meddyliwch am yr hyn mae cysyniadau neu ddigwyddiadau'n ei awgrymu neu yn ei ddangos, neu o le maen nhw'n deillio; y cwestiynau pam a
  4. Pontio – cyflwynwch y paragraff nesaf, gan ddangos sut mae'r paragraff hwn yn gysylltiedig â'r un nesaf, er mwyn sicrhau llif a dangos dilyniant eich meddyliau sy'n parhau drwy gydol y paragraffau.
Darnau o bapur wedi'u sgriwio.

Pam nad eich drafft cyntaf yw'r gair olaf

Ar y cyfan, mae'n bwysig i chi gofio y bydd eich sgiliau ysgrifennu'n datblygu yn ystod eich gradd (graddau) ac nid ydych chi ar eich pen eich hun: gall defnyddio adnoddau'r Brifysgol wneud gwahaniaeth mawr. Yn ogystal â hyn, mae ailysgrifennu a golygu'n elfennau annatod o'r broses ysgrifennu; nid yw drafft cyntaf neb yn berffaith a bydd ystyried adborth blaenorol yn helpu'n uniongyrchol i wella eich gwaith.