Mae digwyddiadau ar-lein yn ffordd wych o ddarganfod mwy am Brifysgol Abertawe a bywyd myfyriwr. Byddwch yn gallu gwylio ein fideos, lawrlwytho ein prosbectws a'n canllaw myfyrwyr ynghyd â siarad â'n tîm cymorth sydd wrth law i ateb eich holl gwestiynau.
Rydyn ni wedi llunio'r rhestr wirio hon cyn y digwyddiad i'ch helpu chi i gael y gorau o'ch ymweliad:
Gwiriwch eich dyfais
Mae hwn yn un syml, ond mae'n hawdd ei anghofio. Cyn mewngofnodi gwnewch yn siŵr bod y ddyfais rydych chi'n ei defnyddio wedi'i gwefru'n llawn a bod ganddi gysylltiad rhyngrwyd da. Ac os ydych chi'n gallu profi dolen y digwyddiad, mae hynny hyd yn oed yn well! Rydyn fel arfer yn argymell defnyddio cyfrifiadur/gliniadur os yw’n bosibl, yn hytrach na ffôn symudol.
Paratowch rai cwestiynau
Mae yna lawer o agweddau ar fywyd y Brifysgol, o lety i fywyd cymdeithasol i gyrsiau a modiwlau, felly bydd gwybod beth rydych chi am ei ddarganfod am astudio yn Abertawe ymlaen llaw yn eich helpu i gael y gorau o'r digwyddiad. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:
- Pa raddau neu bwyntiau UCAS sydd eu hangen arnaf?
- Pa fodiwlau y galla ddewis ohonynt?
- Pa opsiynau llety sydd ar gael imi yn y flwyddyn gyntaf?
- Pryd a sut ydw i'n gwneud cais am lety
- Beth yw prif atyniadau Abertawe a'r ardal gyfagos
- Pa gyfleusterau chwaraeon sydd ar gael ar y campws ac yn Abertawe
- Pa gyfleoedd sydd ar gael i astudio dramor fel rhan o fy nghwrs?
- Pa wasanaethau cymorth i fyfyrwyr sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe?
- Sut y byddwch chi'n fy helpu i drosglwyddo i fywyd prifysgol yn Abertawe?
Cymerwch gip ar rai o'n tudalennau gwe
Tra'ch bod chi yma, mae'n werth edrych o gwmpas ein gwefan i ddarganfod mwy am fywyd myfyrwyr yn Abertawe:
Sgwrsiwch â ni
Y prif reswm rydyn ni yn y digwyddiad yw i ddweud popeth wrthych chi am fywyd yn Abertawe. Mae sgwrsio byw yn y digwyddiad yn seiliedig ar destun, felly bydd eich holl gwestiynau a baratowyd ymlaen llaw yn ddefnyddiol gan y gallwch eu copïo a'u gludo nhw mewn i'r sgwrs.
Gwyliwch ein fideos
Fel rhan o'n stondin, bydd gennym sawl fideo ar gael ichi eu gwylio, gan eich helpu i gael syniad o fywyd yn Abertawe.
Lawrlwythwch ein prosbectws a’n canllaw astudio
Byddwch hefyd yn gallu lawrlwytho ein prosbectws a'n canllaw astudio, gan roi'r trosolwg perffaith i chi o bopeth y mae angen i chi ei wybod am astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Yn y digwyddiad, bydd gennych ‘fag’ y gallwch ychwanegu eitemau ato, gan ganiatáu ichi ychwanegu ein fideos a’n dogfennau at eich ‘bag’ ac yna gallwch eu lawrlwytho nhw nes ymlaen.
Yn olaf, ydych chi eisiau ffordd well fyth i ddarganfod mwy am fywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe?
Cadwch le ar un o'n diwrnodau agored