Canlyniadau'r arholiadau ddim yr hyn roeddech chi wedi gobeithio amdanynt? Peidiwch â phoeni, nid yw'n ddiwedd y byd - a gallai fod yn ddechrau pennod newydd gyffrous ym Mhrifysgol Abertawe. 

Yn gyntaf oll, peidiwch â chynhyrfu! Rydym ni'n gwybod y gall fod yn frawychus pan fydd eich cynlluniau’n mynd o chwith, ond mae opsiynau efallai nad ydych chi wedi meddwl amdanynt eto a dyna pam rydym ni yma i'ch helpu chi i ddysgu rhagor am Glirio.  

Dyma'r broses UCAS o gysylltu myfyrwyr sydd heb le â chyrsiau sydd â lleoedd gwag. Efallai eich bod chi nawr yn ystyried Clirio am un o’r rhesymau canlynol: 

  • Nid ydych chi wedi ennill y graddau roeddech chi'n eu disgwyl; 
  • Cawsoch chi raddau gwell na'r disgwyl; 
  • Rydych chi wedi newid eich meddwl am y brifysgol yr hoffech chi astudio ynddi; neu 
  • Rydych chi am newid i gwrs arall. 

Beth bynnag yw'r rheswm, gall Clirio fod yn gyfle delfrydol i sicrhau lle yn y brifysgol sy'n iawn i chi. 

Yn Abertawe, fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun wrth wneud y math hwnnw o benderfyniad mawr - mae gennym dîm ymroddedig o staff wrth law i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd yn ystod y broses Glirio. Maen nhw yno i roi arweiniad arbenigol i chi am yr hyn sy'n bosibl o'n hamrywiaeth eang o gyrsiau, yn ogystal â chymorth gyda llety a chyllid. 

Rydym ni'n Brifysgol gyfeillgar ac rydym ni'n credu y byddwch wrth eich bodd yma oherwydd ein bod yn cynnig rhagoriaeth dysgu ynghyd ag addysgu llawn ysbrydoliaeth yn ogystal â ffordd o fyw wych yn yr awyr agored - a chroeso cynnes iawn. 

Mae Abertawe'n cynnig addysgu arobryn ac ymchwil o'r radd flaenaf ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o gyrsiau – o raddau sylfaen hyd at gyfleoedd ôl-raddedig. Hefyd, mae digon o arweiniad arbenigol i sicrhau eich bod yn cael y cyngor cywir ar yrfaoedd i'ch paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ni waeth pa gwrs rydych chi'n ei ystyried na sut y gwnaethoch chi ein dewis ni.  

students on bay campus beach

A pheidiwch â derbyn ein gair ni am hyn. Pan dderbyniodd y myfyriwr Hope Henry ei chanlyniadau Safon Uwch, sylweddolodd hi nad oedd wedi gwneud cystal ag roedd hi’n gobeithio. 

“Roedd popeth yn teimlo fel anhrefn llwyr nes i mi dderbyn galwad ffôn gan Brifysgol Abertawe, a siaradodd â mi drwy fy opsiynau," meddai. 

"Derbyniais le ar Flwyddyn Sylfaen y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, gradd a oedd yn cynnig Llwybr i Feddygaeth i mi, gan mai astudio meddygaeth oedd fy nod yn y pen draw. Rwy'n gallu dweud heb os nac oni bai mai dyma'r penderfyniad gorau rwy' erioed wedi'i wneud - o'r alwad ffôn gyntaf, roedd Abertawe'n credu ynof fi fel person ac fel myfyriwr.” 

Mae Clirio ar gael i unrhyw un sydd heb gael cynnig eisoes gan brifysgol neu goleg, a phan fo lleoedd ar gael ar gyrsiau o hyd. Mae Clirio ar agor nawr, hyd at ddechrau'r tymor ym mis Medi. 

Os penderfynwch ymuno â ni ym mis Medi, byddwch yn dod yn rhan o'n cymuned unigryw a gallwch fwynhau bywyd ar ein dau gampws ar lan y môr lle byddwch yn dod o hyd i'r cyfleusterau delfrydol ar gyfer profiad llwyddiannus fel myfyriwr.  

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi mwy na 50 o glybiau a 130 o gymdeithasau, gan roi cyfleoedd gwych i chi gwrdd â ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. 

A phan na fyddwch chi’n astudio, byddwch chi o fewn munudau i ganol y ddinas, yn ogystal â bod yn ddigon agos i archwilio atyniadau penrhyn hardd Gŵyr yn hawdd. 

Mae gennym dros ganrif o brofiad o ddarparu addysg uwch o'r radd flaenaf, ond rydym ni'n ceisio gwella drwy'r amser.  Sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad bythgofiadwy yw ein blaenoriaeth o hyd. 

Yn Abertawe, rydym ni'n adnabyddus am fod yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn gefnogol sut bynnag daethoch chi ar ein traws, felly beth am ddod i weld beth sydd gennym i'w gynnig? 

Cofrestrwch i gael diweddariadau, cyngor ac awgrymiadau gwych am Glirio neu gallwch siarad â'n tîm derbyn myfyrwyr cyfeillgar i ddysgu rhagor. 

A chofiwch, os byddwch yn cyflwyno cais i ni cyn 24 Awst, byddwn ni'n gwarantu cynnig llety i chi. 

• 26ain yn y DU & 15fed yn y DU am Foddhad Cwrs (Guardian University Guide 2023)
• 6ed Ddinas Fwyaf Diogel i fyfyrwyr yn y DU a’r Ddinas Fwyaf Diogel i fyfyrwyr yng Nghymru (Complete University Guide 2023)
• 6ed yn y DU am Fywyd Myfyriwr & 6ed am Ragolygon Gyrfa (Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni? 2023)
• 93% o’n graddedigion yn gweithio, yn astudio a/neu’n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2022)