CSI Swansea
Dydd Mercher 28 Hydref, 6.30pm, £10, 12+ ac oedolion, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dewch draw i’r orielau gyda’r hwyr i ymuno â’r Tîm Archwilio Trosedd, gan ddefnyddio technegau gwyddonol go iawn i astudio’r dystiolaeth a darganfod y dihiryn.
Allwch chi helpu i ddarganfod beth ddigwyddodd?
Maes Chwarae Cyfrifiaduron Ddoe
Mawrth 27 a Mercher 28 Hydref, 11am a 1pm, o £1, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dyma gyfle i fynd yn ôl i’r gorffennol a chael tro ar gyfrifiaduron o oes eich rhieni (a mam-gu a thad-cu!) – y ‘bipio’, y graffeg blociau a’r cyfan. Mae’r gweithdy 45 munud hwn yn berffaith i blant chwilfrydig rhwng 8 a 12 oed a’u teuluoedd.
Dewch i gael gwybod sut yr helpodd Cymru i adeiladu’r byd digidol!
Cyflwynir gan Cynefin Digidol