Neuadd Arddangos Am Ddim

Archwiliwch, arbrofwch a darganfyddwch yn ein Neuadd Arddangos!

Gyda hyd yn oed mwy o arddangoswyr eleni, mae'r Neuadd Arddangos yn gyfle i chi gael profiad ymarferol o ystod anhygoel o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a darganfyddiadau.

Dewch i gwrdd â robotiaid ac ymlusgiaid, gweld rocedi a hen gyfrifiaduron hen ffasiwn, archwilio DNA a’r chorff dynol, teithio o'r Hen Aifft i ddyfnderoedd y gofod, a darganfod y wyddoniaeth sy'n llunio dyfodol iachach a gwyrddach.

Ar hyd y ffordd, gallwch brofi realiti rhithwir, rhoi cynnig ar lawdriniaeth ar yr ymennydd, ymchwilio i greigiau a llosgfynyddoedd, arbrofi gyda delweddu thermol, mynd i'r afael â heriau peirianneg, archwilio gwyddoniaeth mellt a llawer mwy.

Gyda gweithgareddau rhyngweithiol, arbrofion, arddangosiadau a heriau ar gyfer meddyliau chwilfrydig o bob oed, mae rhywbeth newydd i'w ddarganfod ym mhob cornel.

Does dim angen cadw lle; dyma wahoddiad i chi alw heibio a rhoi'r ffrwyn i'r medrau gwyddonol sydd ynoch chi!

  • Darganfod DNA

  • Terfysg Robotiaid

  • STEM gyda Techniquest

  • Robotiaid i Blant

  • Addysgwyr Cymru

  • Sŵ drofannol Plantasia

  • Seryddiaeth

  • Profiad Realiti Rhithwir: Fy Antur Morwellt

  • Rhyfeddodau Peirianneg Fecanyddol

  • Caru Cynrhonyn

  • Darganfod Deunyddiau ar gyfer Byd Cynaliadwy

  • Ffyngau Ffantastig ac Algâu Anhygoel: Pwerdai Bach Byd Natur

  • Y Corff Bionig

  • O'r Planhigyn i'r Claf

  • Archwilio sylfaen foleciwlaidd curiad y galon

  • E-chwaraeon Cymru - Llwybrau Gyrfa E-chwaraeon 

  • Syrcas Fathemategol - detholiad o adnoddau Mathemategol addysgol - e.e. byrddau 'galton', harmonograff, polydronau

  • Arddangos gwresogi gofod carbon isel drwy ddeunyddiau storio thermol

  • Gweithgareddau rhyngweithiol sy'n dod â byd yr hen Aifft yn fyw

  • Lled-ddargludyddion - Yn pweru eich byd! Defnyddir lled-ddargludyddion ym mhopeth!

  • Rocedeg a dylunio cerbydau robotig i fyfyrwyr gyda SwansSEDS

  • Carnifal Cemeg

  • MAGENTA

  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau - Rhaglen STEM

  • Mellt a Tharanau 

  • Laser yn canolbwyntio ar wyddoniaeth ar gyfer radiotherapi

  • Grŵp Morloi'r Gŵyr ac Achub Bywyd Morol Plymwyr Prydain

  • Daeareg ym Mywyd Pob Dydd

  • Maes Chwarae Cyfrifiadura Retro

  • Technocamps

  • Model o Reilffordd Technocamps

  • Sut brofiad yw bod yn wyneb-ddall?

  • Euclid: The Dark Universe Detective

  • The Engineering Zone: Explore, Build & Launch

  • Spectral Ninja - Be the Photon!

  • Cyrhaeddiad Cosmig Arsyllfa Simons

  • Llawfeddygaeth Jeli ar yr Ymennydd

  • The Great Energy Escape

  • Ydych chi'n Gallu Darllen Wyneb? Sut rydyn ni'n Adnabod Emosiynau

  • Her Fawr Cyllid Iechyd! 

  • The HWB Collective CIC - Lle cyfeillgar i feithrin sgiliau, dod o hyd i'ch ffordd a chymryd eich cam nesaf

  • A Way for Waste - tynged plastig a mwynau prin ar y ddaear

Poteli o hylif lliwgar
Bachgen yn gwylio arbrawf gwyddoniaeth
Plant yn gwylio ras pryfed
Dwy ferch yn chwarae gyda melinau gwynt papur
Sgorpion ar law
Neuadd arddangosfa
Plentyn yn edrych trwy'r microsgop
Plant yn archwilio'r sbesimenau gwyddoniaeth
Plant yn chwarae gyda briciau lliw
traciau trên
Bachgen yn edrych ar hen gyfrifiadur
Plentyn yn gwisgo set VR
Dyn yn rheoli robotiaid
Merch yn dal neidr
Merch yn dal crwban
Darlith yr Aifft

Gwybodaeth bwysig

Efallai bydd y stondinau arddangos a nodir yn ddarostyngedig i newid. Os oes gennych sylwadau ar y tudalennau gwe hyn neu’r cynnwys, e-bostiwch swanseasciencefestival@abertawe.ac.uk