Digwyddiadau i gadw lle arnynt

Bydd 15 digwyddiad y gellir cadw lle arnynt dros y penwythnos, gan gynnwys sioe ‘Swigod Enfawr’ a sesiwn ‘Gwyddoniaeth Beryglus’ wefreiddiol. Dewch i archwilio'r rîff gwrel gyda Techniquest neu gwrdd ag ‘Angenfilod Go Iawn o'r Môr’ gydag Incredible Oceans, sy'n adnabyddus am gyfathrebu am wyddoniaeth. Yr holl bethau hyn a mwy!

Ymunwch â ni am gyffro a hwyl wrth ddysgu gyda'n gwesteion arbennig a chadwch eich lle isod

Dydd Sadwrn 28 Hydref YN AMGUEDDFA GENEDLAETHOL Y GLANNAU

Dyn yn chwythu swigod mawr

Sioe Wyddoniaeth Swigod Enfawr Samsam Bubbleman (Archebwyd yn Llawn)

10.30am & 12.15pm
Oriel y Warws
£3
Addas i bawb
(Archebwyd yn Llawn)

"Willy Wonka’r byd swigod!" - Chris Evans, BBC.
 
Samsam Bubbleman yw prif arbenigwr y byd mewn swigod sebon gyda dros 30 mlynedd o brofiad, 12 Record y Byd Guinness a chleientiaid sy'n cynnwys Lady Gaga a theuluoedd brenhinol ledled y byd!
 
Mae Sioe Wyddoniaeth Swigod Enfawr Samsam Bubbleman yn cynnwys golau, dŵr, tywydd, disgyrchiant a thriciau swigod anhygoel. Mae’r pwyslais ar ddangos fod gwyddoniaeth yn HWYL!
Archebwch nawr
Planed Mars

Mawrth, Ffaith a Ffuglen - Sgwrs (Archebwyd yn Llawn)

12pm
Ystafell y Doc
AM DDIM
Addas ar gyfer oedolion a phlant 8+ oed
(Archebwyd yn Llawn)

Ymunwch ag Andrew Loud, wrth iddo ddatgelu beth sy’n wir a beth sy’n gau am y blaned Mawrth, yn y cyflwyniad dramatig hwn wedi'i ategu gan luniau trawiadol a cherddoriaeth.
 
Addas ar gyfer oedolion a phlant 8+ oed
Archebwch nawr
Dau wyddonydd mewn cotiau labordy gwyn yn arbrofi gyda thân

Y Sioe Wyddoniaeth Beryglus

2pm & 4pm
Ystafell Ocean
£3
Addas i bawb, oedran 7+ oed

Os ydych chi'n hoffi'ch gwyddoniaeth yn boeth a swnllyd gyda rhywfaint o risg - dyma'r sioe i chi!
 
Cewch eich syfrdanu gan arddangosiadau peryglus mewn awr wyllt o gyffro gwyddonol.
 
Mae'r sioe yn edrych ar y rôl mae nwy poeth wedi ei chwarae yn natblygiad gwareiddiad pobl drwy gyfrwng chwipiau, bwyeill ar dân, gorchuddion wyneb rhag gwres a ffrwydrad neu ddau.
 
Sylwer - Mae'r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!
Archebwch nawr
Cynrhon

Cynrhon Cariadus! (Archebwyd yn Llawn)

2.30pm
Ystafell y Doc
AM DDIM
Addas i bawb, oedran 7+ oed

Cynrhon cariadus - Y gwyddoniaeth y tu ôl i'r rhyfeddodau meddygol hyn!
Mae cynrhon yn ffordd wych ac effeithiol o drin clwyfau sy'n crynhoi!
Mae ein grŵp ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi gwneud darganfyddiadau gwyddonol sy'n esbonio sut mae cynrhon yn gweithredu i helpu clwyfau i wella.
Trwy rannu ein gwaith ein nod yw newid y canfyddiad ‘yucky’ o'r creaduriaid rhyfeddol hyn! Gyda Yr Athro Yamni Nigam
Archebwch nawr
Dyn ag aderyn ffug ar ei ben

Bysgiwr Gwyddonol

2.30pm & 4.15pm
Oriel y Warws
£3
Addas i bawb, oedran 7+ oed

"Ymunwch â ni am y profiad gwyddonol arbennig hwn dan ofal y bysgiwr gwyddonol gwych David Price.
Cyfle i’r teulu cyfan gymryd rhan mewn arddangosiadau ac arbrofion ymarferol yn y sioe ryngweithiol a hwyliog hon (...sy'n cynnwys y glustog gnecu ail fwyaf yn y byd!)⁠ ⁠
 
Digwyddiad gan Science made Simple.
 
Nodwch: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
 
Archebwch nawr

Nodwch: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.

Cynnig Arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau â thâl i arbed 30%!

Festival logo
Archebwch 3 digwyddiad taledig neu fwy i arbed 30%!

Dydd Sul 29 Hydref YN AMGUEDDFA GENEDLAETHOL Y GLANNAU

cefnfor lliwgar gyda physgod a slefrod môr

Sioe y Môr (Archebwyd yn Llawn)

10.30am Cymraeg & 11.30am Saesneg
Ystafell Ocean
AM DDIM
Addas i bawb, oedran 5+ oed

Ymunwch â ni ar daith sy'n mynd â ni o'r riffiau cwrel deniadol i'r dyfnderoedd tywyll tanodd, lle byddwn ni'n gweld pysgod sy'n goleuo yn y tywyllwch a llwythi o greaduriaid rhyfedd ar y ffordd.
Cawn ddysgu mwy am y ffordd mae ein moroedd yn newid a beth allwn ni gyd ei wneud i helpu i warchod yr amgylchedd tanddwr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Sylwer - Mae'r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!
 
Cyflwynwyd gan Techniquest
Archebwch nawr
Sadwrn 28 Llong yn y môr ac octopws anferth yn ymosod arni

Angenfilod go iawn o'r Môr (Archebwyd yn Llawn)

12pm
Ystafell y Doc
£3 (Archebwyd yn Llawn)
Addas i bawb, oedran 7+ oed

Dewch i ddarganfod yr anifeiliaid sydd wedi ysbrydoli nifer o hanesion pysgodlyd a straeon gan hen forwyr.
Yn cynnwys arddangosfa eitemau a thrin a thrafod sbesimenau
 
Cyflwynwyd gan Incredible Oceans – The Science and Art of Communicating about Life Below Water
Archebwch nawr
Dyn â gogls wedi'i amgylchynu gan wahanol fwyd

Gastronaut Extreme: Gwyddoniaeth i frecwast!

1pm
Oriel y Warws
£4.50
Addas i bawb, oedran 6+ oed

Antur fwytadwy fythgofiadwy gyda Gastronot y BBC, Stefan Gates.
Bydd taflu tân a bwyd, fferins rhyfedd, siocled wedi'i orchuddio ag aur, trychfilod byw, rocedi, blasau bwyd anghyffredin ac arddangosiadau treulio rhyfedd iawn!
Mae Stefan Gates yn enwog am ei sioeau gwyddoniaeth a bwyd o safon ryngwladol.
 
Sylwer - Mae'r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!
Archebwch nawr
Celloedd lliwgar animeiddiedig

Y Sefydliad Brenhinol yn cyflwyno... Celloedd Clyfar

2pm
Ystafell Ocean
£3
Addas i bawb, oedran 7+ oed

Beth sy'n ein gwneud ni'n sâl? Pam fod pob un ohonon ni'n sâl weithiau? Dilynwch gyflwynydd yr RI ar daith yn ddwfn i'n celloedd i weld sut mae bacteria a firysau yn ymosod ar ein cyrff ac yn ceisio cymryd drosodd, ac yn bwysicach, sut allwn ni ymladd nôl? O feddyginiaeth hynafol i wyrthiau modern, byddwn ni'n dangos sut mae gwyddoniaeth yn cefnogi a gwella amddiffynfeydd naturiol ein cyrff. O'r gwrthfiotig a'r brechlyn, i ddyfodol lle gallwn ni hyfforddi'r corff i wella o unrhyw afiechyd bron!
Sylwer - Mae'r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!
Archebwch nawr
Dyn â chrys glas a mwstas

Taith i Ddyfnderoedd y Môr

2.30pm
Ystafell y Doc
£3
Addas i bawb, oedran 7+ oed

Mordaith i ddyfnderoedd y môr, gan stopio i edrych ar bob math o greaduriaid rhyfeddol.
Yn cynnwys arddangosfa eitemau a thrin a thrafod sbesimenau
 
Cyflwynwyd gan Incredible Oceans – The Science and Art of Communicating about Life Below Water
Archebwch nawr
Gwyddonydd gwallgof

Gwyddoniaeth Afiach

3.30pm
Oriel y Warws
£4.50
Addas i bawb, oedran 6+ oed

Gwyddoniaeth ar ei fwyaf ffiaidd yng nghwmni Stefan Gates! Mae ei sioe newydd yn rhoi sylw i holl bethau mwyaf afiach (ond hanfodol!) ein cyrff!
Bydd plorod, torri gwynt, rhechfeydd, baw trwyn, crachod, pi-pi, chwd, gwaed, chwys a dagrau, oll yn dod yn fyw gyda styntiau, rocedi, peiriannau rhechan, peiriannau tisian a phenolau enfawr.
Mae Stefan Gates yn enwog am ei sioeau gwyddoniaeth a bwyd o safon ryngwladol.
Archebwch nawr
Gwraig yn perfformio arbrawf gyda mwg

Y Sefydliad Brenhinol yn cyflwyno... Ni sydd â'r pŵer!

4pm
Ystafell Ocean
£3
Addas i bawb, oedran 7+ oed

Ymunwch â'r Sefydliad Brenhinol am sioe deuluol sy'n llawn arbrofion ffrwydrol, fydd yn siŵr o roi gwefr i chi!
 
Mae Ni sydd â'r pŵer! yn edrych ar sut mae tanwyddau ffosil yn cael effaith ar ein hinsawdd, ac elfennau ffiseg a chemeg mewn storio trydan.
 
Sylwer - Mae'r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!
Archebwch nawr

Nodwch: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.

Cynnig Arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau â thâl i arbed 30%!

Festival logo
Archebwch 3 digwyddiad taledig neu fwy i arbed 30%!

Gwiriwch ddigwyddiadau eraill sy'n digwydd o gwmpas yr hanner tymor

Mwy o'r Ŵyl Wyddoniaeth

Dydd Mawrth 31ain Hydref

Apophis

Y Llyngyddwr Haul

Bachgen yn sgrechian

Mawrth 31 Hydref i 3 Tachwedd, 10am – 3pm
Y Ganolfan Eifftaidd, Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton
£20 y plentyn am ddiwrnod
Yn addas ar gyfer oedran 6-11 oed

Ymunwch â ni ar gyfer antur Hallowe'en gyffrous yma yn ystod hanner tymor gyda gweithdy plant Y Ganolfan Eifftaidd!
Gwisgwch fel dewiniaid a duwiaid pwerus wrth i chi uno i achub y byd rhag y neidr dychrynllyd sy'n bwyta'r haul, Apophis.
Archwiliwch grefft yr hieroglifyau wrth i chi ddysgu ysgrifennu swynion hudol ar bapyrys go iawn ac adeiladwch eich crefft mummy cath eich hun i'w gymryd adref gyda chi!

Gofynnir i gwarcheidwaid ollwng plant yn y bore a'u casglu ar ddiwedd y gweithdy. Rhowch becyn bwyd i’ch plentyn.

Cadwch le heddiw!
I archebu, ffoniwch: 01792 295 960
neu ymwelwch â: egyptcentre@swansea.ac.uk.
Dim ond gyda ffurflen ganiatâd wedi'i chwblhau a thaliad y bydd archeb yn cael ei chadarnhau. 

 

 

Dyraniad Pysgodyn

Mwy o’r Ŵyl Wyddoniaeth: Calan Gaeaf

Bachgen yn dyrannu pysgodyn
11.30am & 2.30pm
Ystafell y Doc, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
£4
Oed 9+
 
Digwyddiad Arbennig yng Ngŵyl Wyddoniaeth yr Hanner Tymor
 
⁠Ymunwch â Cefnforoedd Anhygoel, i ddysgu am ba addasiadau biolegol rhyfeddol sy'n gwneud pysgodyn yn bysgodyn, wrth i ni gynnal dyraniad gwyddonol.
 
Mae hwn yn weithdy ymarferol -
 
Nid i’r gwangalon!
 
Cyflwynwyd gan Incredible Oceans – The Science and Art of Communicating about Life Below Water
 
Mae'r gweithdy hwn ar gyfer plant hŷn. Oed 9+
 
Mae'r gweithdy hwn yn defnyddio offer miniog ar gyfer y dyraniad.
 
Cynnig Arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau â thâl i arbed 30%!
 
… Bydd deunyddiau yn cael eu darparu i bob cyfrannwr sydd â thocyn. Rydyn ni’n annog oedolion i helpu eu plant gyda’r sesiwn, ond fyddan nhw ddim yn cael eu deunyddiau eu hun.
Dim mwy nag 1 oedolyn yn cefnogi bob 2 blentyn
 
Archebwch nawr

Dydd Mercher 1 Tachwedd

The Shape of Speed

Car rasio

11am & 2pm
Lleoliad Gwyddoniaeth Oriel, Stryd y Castell
AM DDIM
Addas i bawb

Fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni, ymunwch â gweithdy Oriel Science "The Shape of Speed" i ddylunio model o gar er mwyn cystadlu ag eraill; gwnewch hofrenfad CD a rhowch gynnig ar ein 'car SURE', sy'n gar rasio cystadleuol ag olwynion agored wedi'i ddylunio gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Sesiwn 1: 11 a.m. - 12 p.m.
​Sesiwn 2: 2 p.m. - 3 p.m.

Cadwch eich lle AM DDIM.

Archebwch nawr

Bywluniau o Benglog Orca

Llun penglog Orca
11.30am & 2.30pm
Ystafell Ocean, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
£4
Addas i blant dros 8 oed
 
Digwyddiad Arbennig yng Ngŵyl Wyddoniaeth yr Hanner Tymor
 
Dewch i ddysgu am anatomi, esblygiad ac ymddygiad rhyfeddol yr Orca, tra'ch bod yn gwneud llun o'n penglog Orca replica.
 
Darperir yr holl ddeunyddiau.
 
Addas i blant dros 8 oed
 
Cyflwynwyd gan Incredible Oceans – The Science and Art of Communicating about Life Below Water
 
Cynnig Arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau â thâl i arbed 30%!
 
… Bydd deunyddiau yn cael eu darparu i bob cyfrannwr sydd â thocyn. Rydyn ni’n annog oedolion i helpu eu plant gyda’r sesiwn, ond fyddan nhw ddim yn cael eu deunyddiau eu hun.
Dim mwy na 2 oedolyn yn cefnogi bob grŵp
 
Archebwch nawr

Dydd Iau 2 Tachwedd

Natur Rywiol

CANSLO

Mwnci gyda cheg agored
CANSLO
 
7.30pm
Oriel y Warws, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
£4.50
18+
 
Mae'r panel gwyddoniaeth hwn (i oedolion yn unig!) yn datgelu’r cyfan am fyd natur, ac o’r diwedd yn rhannu’r cyfrinachau budr na welwch chi ar raglen ddogfen natur...
 
O orjis anifeiliaid i berfformiadau acrobatig yn eich gardd eich hunain, ymunwch â'n panel o arbenigwyr a darlledwyr wrth iddyn nhw ddatgelu beth sy'n digwydd ym myd natur pan nad oes neb yn edrych.
 
Mae'r sioe wyddonol ysgafn hon yn herio'r gynulleidfa i benderfynu p'un a yw ein haelodau panel yn dweud y gwir bob tro, neu p'un a oes ambell i gelwydd yn cael ei ddweud.
 
Cynulleidfa 18+
Mae biolegydd esblygol, awdur, a chyflwynydd teledu, yr Athro Ben Garrod, wedi byw ym mhedwar ban byd o’r Arctig i goedwigoedd cyhydeddol Affrica gan achub rhai o’r rhywogaethau sydd yn y perygl mwyaf yn y byd, o siarcod i forfilod, i tsimpansîaid ac orangwtaniaid.
 
Cynnig Arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau â thâl i arbed 30%!
 
Archebwch nawr

Ar Draws Cefn y Ddraig

CANSLO

Ben Garrod

CANSLO

6pm
AM DDIM
Addas i oedolion

Mae dyn cyffredin yn cymryd ras anghyffredin.
Bu gwyddonwyr chwaraeon Prifysgol Abertawe, Laura Mason a Nick Owen, yn dilyn y cyflwynydd teledu, biolegydd esblygiadol ac ambell redwr 10k Ben Garrod wrth iddo hyfforddi a cheisio ras 380km Dragon’s Back ar draws copaon Cymru o Gonwy i Gaerdydd.
Fel cyd-wyddonydd, roedd Ben yn fodlon i gymryd rhan mewn cyfres o brofion cyn, yn ystod ac ar ôl y ras, gan gynnwys gweithrediad y cyhyrau, profion gwybyddol, a samplu gwaed ac wrin dyddiol.
Roedd yn gyfle prin i astudio effeithiau gweithgaredd eithafol ar y corff dynol.
 
Ymunwch â Ben, Laura a Nick i ddarganfod sut hwyl a gafodd a beth sydd ei angen i gwblhau her mor epig.
 
 
Archebwch nawr

Digwyddiadau'r Gorffennol...

Dydd Gwener 20fed Hydref

Floods, Sweats and Tears

Prifysgol Abertawe yn erbyn y Menopos

Logo Prifysgol Abertawe

4.30pm – 6.30pm
Canolfan Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe
AM DDIM

Ymunwch ag amrywiaeth o siaradwyr proffil uchel yn ystod yr hydref am ddigwyddiad a ddylai fod yn gofiadwy wrth amlygu sut mae Prifysgol Abertawe'n herio'r menopos.  

Cynhelir y digwyddiad ar 20 Hydref rhwng 4.30pm a 6.30pm yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin. 

Bydd Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe, a Dr Louise Newson, Meddyg Teulu ac Arbenigwr Menopos sydd wedi creu cynulleidfa fyd-eang drwy bodlediad gwybodaeth am y menopos a’r perimenopos Dr Louise Newson, yn ymuno â Kate Lewis o ITV Cymru. Gyda'i gilydd, byddant yn trafod y dirwedd menopos bresennol ar draws y DU, a pham y mae'n hollbwysig i'r rhai hynny sy'n mynd trwy'r menopos gael mwy o gefnogaeth. 

Bydd Dr Aimee Grant a Dr Rachel Churm o Brifysgol Abertawe'n cyflwyno canfyddiadau eu hymchwil i'r menopos a bydd rhagor o drafodaethau ynghylch sut mae Prifysgol Abertawe'n mynd i'r afael â'r menopos drwy addysgu.  

Bydd cyfle i'r ddau gyflwynydd a'r gynulleidfa rannu straeon personol am y menopos a bydd modd ymdrin â chwestiynau drwy sesiwn holi ac ateb.  

Byddwn hefyd yn nodi sut gall y Brifysgol roi ei strwythurau cymorth ei hun ar waith i'r rhai sy'n profi'r menopos.  

Mae'r digwyddiad am ddim, ond rhaid archebu tocynnau drwy Swyddfa Docynnau Taliesin.  

Digwyddiadau'r Gorffennol...

Dydd Gwener 27 Hydref

10:30am-15:00pm
Creu Taliesin, Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton
AM DDIM
Addas i bawb

Rydym yn falch o’ch gwahodd chi i gymryd rhan mewn digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol UKRI ar ddydd Gwener 27 Hydref 2023. Ymunwch â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin yn Abertawe am ddiwrnod Cymru gyfan sy’n llawn hwyl a digwyddiadau anffurfiol a rhyngwladol ar les.

Bydd y digwyddiadau am ddim ac fe’u cynhelir drwy gydol y dydd i bobl alw heibio, ar y cyd â gweithdai am amserau penodol y gallwch chi gadw lle ar eu cyfer. Rhoddir lluniaeth drwy gydol y dydd.

Agenda a Cofrestru

Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol

Lles mewn Bywyd Bob Dydd, o’r Hen Aifft hyd heddiw!

Grŵp o bobl