Mae cysylltiad gan wasanaethau gofal cymdeithasol yn aml yn dechrau oherwydd digwyddiadau andwyol, trawmatig neu ddigwyddiadau sy’n achosi straen i blant a phobl ifanc a gall amgylchiadau megis cam-drin ac esgeulustod, salwch rhieni, marwolaeth, anabledd ac amgylchiadau eraill arwain at atgyfeirio at ofal cymdeithasol. Mae’r plant sy’n hysbys i wasanaethau gofal cymdeithasol yn cynrychioli poblogaeth bwysig yn y DU sydd yn aml yn agored i niwed. Yn 2023, roedd 17,513 o blant yn hysbys i wasanaethau gofal cymdeithasol – gelwir y rhain yn Blant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth – sef oddeutu 283 o blant  o bob 10,000 o blant yng Nghymru. Ceir tri math o ymyrraeth: 

1) Plant sydd â gweithiwr cymdeithasol yw’r rhai hynny sy’n aros gyda’u teuluoedd ond sy’n cael cymorth 

2) Plant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant yw’r rhai hynny sy’n aros gyda’u teuluoedd ond sydd ar gofrestr sy’n adnabod y risg o niwed sylweddol 

3) Plant sy’n cael gofal yw’r rhai hynny sy’n cael eu symud o’u teuluoedd ac sy’n cael gofal gan yr awdurdod lleol.

Llun o Dr Lowthian

Mae’r adrannau isod yn amlygu gwaith Dr Lowthian o ran y canlynol: 

1. Yr ymchwil i ddeilliannau addysgol plant sy’n hysbys i wasanaethau gofal cymdeithasol – gan gynnwys adroddiadau annhechnegol, fideos wedi’u hanimeiddio ac erthyglau cyfnodolion. 

2. Gwaith effaith ar Fodel Ysgol Rithwir Cymru; ni ddylid meddwl mai dysgu ar-lein yw hwn, yn hytrach, dyma le mae gan uwch-arweinydd ym mhob awdurdod lleol gyfrifoldeb dros addysg plant sy’n derbyn gofal – dyma ymarfer sefydledig yn Lloegr ac yn yr Alban. 

3. Datblygu rhaglen hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr sy’n ymgymryd ag Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru ac yn Lloegr sy’n canolbwyntio ar brofiadau addysgol plant sy’n hysbys i wasanaethau gofal cymdeithasol.  

Ymchwil i Addysg Plant sy’n hysbys i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol

Mae Dr Lowthian wedi cynnal ymchwil sylweddol i ddeall sut gall gofal cymdeithasol effeithio ar ddeilliannau addysgol gan gynnwys cyrhaeddiad, presenoldeb a gwahardd o’r ysgol. Gweler ei dwy astudiaeth allweddol isod, sy’n cynnwys adnoddau annhechnegol: 

Ymchwil i addysg plant sy’n hysbys i wasanaethau gofal cymdeithasol: 

Yn Lowthian et al. (2024), canfuwyd bod plant sy’n cael unrhyw fath o ymyrraeth gan wasanaethau gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o fethu cyrraedd y lefel ddisgwyliedig ar ôl iddynt adael addysg statudol yn 16 oed, ac roedd yr holl grwpiau sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn wynebu risg uwch o gael eu derbyn i’r ysbyty ar frys, o’u cymharu â phlant yn y boblogaeth gyffredinol, hyd yn oed ar ôl addasu ar gyfer profiadau andwyol yn ystod plentyndod a nodweddion eraill. Mae’r awduron wedi dod i’r casgliad na ddylai polisi ganolbwyntio ar blant mewn gofal yn unig, ond yn hytrach, dylai ymestyn at y rhai hynny sydd wedi’u hadnabod fel plant "mewn angen" neu "mewn perygl" wrth iddynt aros gartref, a bydd angen cymorth integredig ar draws y sectorau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. 

I weld fideo am yr ymchwil hon, gweler yma: https://youtu.be/0kSKPhe5mfo?si=hm6Qh2_8rha64gXT  

Ymchwil i gynnydd addysgol plant sydd â phrofiad o ofal:  

Gan ddefnyddio data cofnodion cenedlaethol ar ddata addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol ar gyfer dros 1,000 o blant yng Nghymru (2000-2019), roedd Dr Lowthian a’i chydweithwyr yn gallu mapio sut mae symudiadau mewn gofal yn berthnasol i gynnydd addysgol. Gwnaethant ddarganfod bod plant sy’n cael eu mabwysiadu’n gynnar yn cwrdd â disgwyliadau cenedlaethol erbyn 7 blwydd oed, ond, ar y llaw arall, mae plant sy’n mynd i ofal maeth ychydig cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol yn cofnodi’r cyrhaeddiad isaf. Mae dilyniant addysgol yn gostwng dros amser ac mae cyrhaeddiad is erbyn 11 oed ac 16 oed ar gyfer yr holl grwpiau sy’n derbyn gofal. Cafodd llawer o’r plant brofiadau gwael yn yr ysgol gan gynnwys mwy o symudiadau rhwng ysgolion, cael eu hatal dros dro a chael eu gwahardd o’r ysgol a thlodi ar yr aelwyd. Esboniodd yr agweddau hyn i ryw raddau pam roedd plant a oedd yn derbyn gofal dros dro wedi cael cyrhaeddiad is, gan danlinellu’r angen am gymorth gwell yn yr ysgol ac ymagweddau gweithio aml-asiantaeth.  

Am adroddiad annhechnegol, gweler: https://heyzine.com/flip-book/e09ead3068.html 

Canlyniadau addysgol dysgwyr sydd wedi cael profia

Animeiddiad byr yn esbonio'r ymchwil ar gynnydd a chyrhaeddiad addysgol plant sydd â phrofiad o ofal

Y Model Ysgol Rithwir yng Nghymru

Three presenters beside a screen on virtual schools research in Wales and Scotland

Nid yw’r Model Ysgol Rithwir (VSM) yn ysgol ffisegol — mae’n dîm ymroddedig sy’n gweithio ochr yn ochr ag ysgol  plentyn sydd â phrofiad o ofal i hyrwyddo ei addysg, gan weithio’n agos gyda gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr a phobl eraill. Mae’r model wedi cael ei ddefnyddio ar draws Lloegr ers 2014, ac mae tystiolaeth yn ei gysylltu â chyrhaeddiad gwell a llai o blant yn cael eu gwahardd o’r ysgol; Mae fersiwn o hwn wedi bod gan yr Alban ers 2015. Cynhaliodd Cymru ei fersiwn beilot tair blynedd ei hun o’r model rhwng 2021 a 2024, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, a gwnaeth awdurdodau lleol a gymerodd ran dreialu ffyrdd gwahanol o’i roi ar waith. Gwnaeth gwerthusiad annibynnol o’r peilot, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2025, ddarganfod amrywiaeth o effeithiau cadarnhaol ac argymhellodd gyflwyno rôl statudol ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Ymchwil ac effaith 

Mae Dr Emily Lowthian yn cynnal ymchwil i’r Model Ysgol Rithwir yng Nghymru, gyda’r nod o ddeall sut byddai model effeithiol yn edrych o ran deilliannau addysgol plant sydd â phrofiad o ofal. Ar ôl cyhoeddi’r gwerthusiad yn 2025, mae hi wedi cyd-ysgrifennu blog ar pam mae angen gweledigaeth a strategaeth newydd ar Gymru ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru drwy BERA: https://www.bera.ac.uk/blog/why-wales-needs-a-national-strategy-for-care-experienced-learners.  

Mae hi wedi siarad yng nghyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Penaethiaid yr Ysgol Rithwir ym Mirmingham yn 2026, yn y llun gyda Michael Bettencourt (CELSIS) a Deborah Williams (Pennaeth Ysgol Rithwir gynt dros Gaerdydd). Gwnaeth y gweithdy hwn ganolbwyntio ar y cynnydd hyd yn hyn yn yr Alban ac yng Nghymru, a’r hyn y gallent ei ddysgu gan Loegr – gan gynnwys y pethau da a’r pethau gwael!  

Dyfarnwyd £15,000 iddi (Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, 2026) i lansio digwyddiad yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys Penaethiaid yr Ysgol Rithwir, Cydlynwyr Plant sy’n Derbyn Gofal, Ymarferwyr a Llunwyr Polisïau, i archwilio i lle mae’r Model Rithwir yng Nghymru ar hyn o bryd, ac i nodi’r hyn y mae ei angen ar Gymru wrth iddi symud ymlaen i fod yn fwy integredig o ran ei chymorth i ddysgwyr sydd â phrofiad o ofal – mae hyn wedi deillio o’i hymchwil.  

Am fideo wedi’i animeiddio a gynhyrchwyd ar y cyd gan Dr Lowthian a’i grŵp llywio ar yr Ysgol Rithwir ledled y DU, gweler: https://www.youtube.com/watch?v=2t8F0156mZk&t=7s  

Ffocws Cymreig ar Brifathrawon Ysgolion Rhithwir

Animeiddiad byr yn esbonio'r Model Ysgol Rithwir yng Nghymru o fis Medi 2026

Gofal Cymdeithasol ac Addysg Gychwynnol i Athrawon

Gwnaeth Dr Lowthian ddarganfod bod gan blant sy’n hysbys i wasanaethau ofal cymdeithasol gyrhaeddiad addysgol is, gyda thri phlentyn ym mhob pedwar wedi’u dosbarthu’n  AAAA, roedd traean ohonynt wedi’u hatal dros dro neu wedi’u gwahardd o’r ysgol ac roedd 1 o bob 2 ohonynt o dan anfantais ariannol. Fodd bynnag, mae llawer o blant yn trafod yr ysgol fel rhywle lle gallant deimlo fel eu bod yn perthyn a’u bod yn normal. Tybir mai peth prin yw gofal cymdeithasol, ond amcangyfrifir bod gan 1 o bob 4 o blant weithiwr cymdeithasol ar ryw adeg yn Lloegr a bydd plentyn sy’n derbyn gofal yn y rhan fwyaf o ystafelloedd dosbarth. Bydd llawer o athrawon dan hyfforddiant yn addysgu plant sy’n hysbys i wasanaethau gofal cymdeithasol – ond mae gan ychydig iawn ohonynt yr offer i’w cefnogi, er gwaethaf bod yn uchel eu cymhelliant.

Grid of presentation slides on children receiving care or social support

Gwnaeth y tyndra hwn ddarparu cyfle: Sut gallwn ni gefnogi’r genhedlaeth nesaf o athrawon i gefnogi plant sy’n hysbys i wasanaethau gofal cymdeithasol yn well? 

Trawsnewidiodd Dr Lowthian ei hymchwil yn ymarfer drwy feithrin grŵp cydweithredol o ymarferwyr, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn y trydydd sector. Arweiniodd hwn at gyd-ddatblygu rhaglen beilot ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio Addysg Gychwynnol i Athrawon (ITE) ar draws Cymru a Lloegr.  

Canlyniadau’r rhaglen hyfforddiant beilot 

Cyrhaeddodd yr hyfforddiant dros 400 o fyfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon o 12 o sefydliadau.  

  • Cytunodd 97% o fyfyrwyr fod yr hyfforddiant hwn yn bwysig i athrawon dan hyfforddiant 
  • Cynyddodd hyder o 5/10 i 7/10 – sef cynnydd o 32%.  
  • Dywedodd y myfyrwyr fod yr hyfforddiant wedi eu cefnogi i fod yn ymwybodol o drawma, cadw dyheadau uchel a rhoi ymdrech ychwanegol i ddatblygu perthynas gadarnhaol â phlant sy’n hysbys i wasanaethau gofal cymdeithasol.  

Ar ôl 6 i 12 o wythnosau, cynhaliwyd lefel yr hyder ac esboniodd myfyrwyr sut oedden nhw wedi rhoi’r hyfforddiant ar waith, ac roedd rhai ohonynt wedi ail-gyflwyno’r hyfforddiant i’w hysgol lleoliad ymarfer. 

Mae canfyddiadau’r rhaglen hyfforddiant beilot wedi cael eu drafftio’n adroddiad polisi. 

Camau nesaf

Mae Dr Lowthian newydd sicrhau £15,000 ychwanegol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (2026) i ehangu’r raddfa tuag at e-blatfform er mwyn cyrraedd mwy o fyfyrwyr drwy Labordy Arloesi Cymru. Mae gan yr e-blatfform hwn ar raddfa fwy y potensial i gyrraedd 30,000 o fyfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon bob blwyddyn os bydd darparwyr yn eu hymgorffori yn eu cwricwlwm. Bydd yr e-blatfform hefyd yn gwella drwy gydweithredu pellach a bydd yn cynnwys astudiaethau achos a thasgau myfyriol. Yn bwysicaf oll, bydd cymorth gan ysgolion i blant sy’n hysbys i wasanaethau gofal cymdeithasol yn gwella – lle bydd dyheadau’n uchel a pherthnasau cadarnhaol yn rhywbeth arferol.