Awgrymiadau darllen

Os ydych chi wedi sicrhau eich lle yma yn Abertawe eisoes, neu os ydych chi’n chwilio am ddeunyddiau darllen diddorol i baratoi ar gyfer astudio am eich gradd troseddeg, mae gennym restr ddarllen i chi.

Mae ein hacademyddion wedi darparu eu rhestr orau o lyfrau, podlediadau ac adnoddau ar-lein eraill am droseddeg. Bwriad y rhain yw rhoi blas i chi ar y deunydd y gallech fod yn ymdrin ag ef yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol.

Pam dylwn i ddarllen y rhain?

Rydym wedi llunio’r rhestr ddarllen hon ar gyfer y radd mewn Troseddeg i’ch helpu yn y ffyrdd canlynol:

  • Bydd y deunyddiau a ddarperir yn helpu i roi cyflwyniad i chi i’r derminoleg a’r materion y byddwch yn eu hastudio yn ystod eich gradd troseddeg.
  • Bydd y deunyddiau darllen yn eich helpu i ddatblygu eich barn eich hun am y cynnwys a bydd yn ehangu eich gorwelion drwy roi sylw i safbwyntiau amrywiol mewn troseddeg.
  • Os nad ydych chi wedi cyflwyno cais eto, gall y rhestr ddarllen hon, ynghyd â’ch darllen eich hun, eich helpu i ysgrifennu datganiad personol cryf sy’n dangos dealltwriaeth a chyfeiriadau da.

Rhestr ddarllen ac adnoddau ar-lein

Ein Cymuned o Fyfyrwyr Bywiog