Laura hiking in Brecon.

Mae taith Laura Harry drwy ei haddysg ym Mhrifysgol Abertawe yn ysbrydoliaeth bur. Gan ymaflyd â phroblemau personol a goresgyn heriau digynsail, mae wedi serennu gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Addysg.  Mae stori Laura'n dyst i wytnwch, dyfalbarhad a chymorth diflino gwasanaethau lles y brifysgol.

Dechreuodd taith academaidd Laura yn 2020, law yn llaw â'r pandemig byd-eang. Gwnaeth hi a'i chyd-fyfyrwyr ymaddasu i flwyddyn gyfan o ddysgu ar-lein, gan golli cyfle i brofi pethau arferol yn y brifysgol.

Yn ogystal â maglau'r pandemig, roedd gan Laura lu o heriau personol a rhai'n ymwneud â'i hiechyd hefyd gan gynnwys dyslecsia a chlefyd coeliag heb ei ddiagnosio.  Arweiniodd hyn ati'n newid i raglen ymarferol a oedd yn seiliedig ar asesu, gan amau ei gallu i lwyddo yn y ffordd academaidd draddodiadol.

Er gwaethaf yr holl rwystrau, roedd dyfalbarhad Laura'n ddiwyro. Gan ddewis Prifysgol Abertawe am ei hamgylchedd cefnogol, dechreuodd ar ei gradd addysg gan obeithio’ llwyddo, nid rhagori.

Yn ystod ei hail flwyddyn, gyda phroblemau iechyd meddwl dyma Laura'n estyn allan am gymorth. Gweithiodd gwasanaethau lles y brifysgol yn gyflym, gan ei rhoi mewn cysylltiad ag ymarferydd arbenigol a rhoi cymorth iechyd meddwl hanfodol iddi. Rhoddwyd hwb pellach i daith academaidd Laura gyda chymorth unigol ar gyfer ei dyslecsia, gan ei galluogi i ragori yn ei gradd, gan ennill graddau 2:1 a hyd yn oed graddau dosbarth cyntaf.

Roedd trydedd flwyddyn Laura'n llawn apwyntiadau, astudiaethau a thwf personol. Gyda chymorth y brifysgol, y GIG a'i mentor personol, cwblhaodd ei gradd yn rhagorol gan gyflawni 80% yn ei thraethawd hir terfynol, a graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Ar ben hynny, gwnaeth amgylchiadau personol Laura sefydlogi, a gwnaeth ei hiechyd meddwl a chorfforol wella'n sylweddol.

Gyda'i hyder newydd, penderfynodd Laura astudio am radd Meistr mewn seicoleg, gyda dyheadau i fod yn seicolegydd addysg. Mae ei thaith yn parhau i ffynnu wrth iddi ddechrau ar gyfleoedd newydd, gan gynnwys cynigion swyddi a rhyngweithiadau cymdeithasol a fyddai gynt wedi bod yn frawychus.

Gan fyfyrio ar ei phrofiad trawsnewidiol ym Mhrifysgol Abertawe, mae Laura'n cydnabod rôl hollbwysig gwasanaethau lles a llesiant y brifysgol. Bu'r gwasanaethau hyn yn llinell gymorth iddi yn ystod argyfwng, gan gynnig rhwyd ddiogelwch iddi a’i galluogodd i ffynnu'n academaidd ac yn bersonol. Er i astudiaethau Laura gael eu rhwystro gan streiciau, cyfnodau clo a dysgu ar-lein, yr hyn oedd wir yn bwysig oedd y cymorth a dderbyniodd.

Yn ôl Laura: 

"Dwi ddim yn gor-ddweud yma, ond gwnaeth Prifysgol Abertawe achub fy mywyd. Bu'r gwasanaethau lles a llesiant yn gymorth mawr i mi pan na allwn sefyll mwyach, gwnaethant frwydro ar fy rhan i gael help y GIG a sicrhau bod gennyf y cymorth roedd ei angen arnaf i aros yn y brifysgol. Y cymorth a roddwyd yn ei le i mi gan Abertawe, byddaf bob amser yn ddiolchgar am hynny".

Wrth i Laura adael Prifysgol Abertawe gyda gradd dosbarth cyntaf, mae ganddi ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch. Yn ogystal ag addysg ragorol, gwnaeth y sefydliad gynnig iddi’r offer a'r cymorth angenrheidiol i oresgyn rhwystrau lu. Mae ei thaith yn dyst i rym trawsnewidiol addysg ac ymroddiad sefydliadau fel Prifysgol Abertawe i lwyddiant a lles eu myfyrwyr.

Ein nod yw parhau i ddatblygu Abertawe i fod yn brifysgol gynhwysol a hygyrch. Mae gan bob myfyriwr yr hawl i deimlo ei fod yn cael ei gefnogi yn ystod ei amser yn y brifysgol ac rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i ddiwallu anghenion pawb. Mae gennym adnoddau ar-lein, gwasanaethau a gweithdai, sesiynau cefnogi a chymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anawsterau hirdymor.

Os ydych yn chwilio am gymorth iechyd a lles tra'n astudio gyda ni yn Abertawe, cysylltwch â'r tîm ar wellbeingdisability@abertawe.ac.uk. 

Rhannu'r stori