Digwyddiad lansio

Lansiwyd animeiddiad newydd, sy'n rhannu ymchwil i rôl ‘canolfannau cynnes’, i'r cyhoedd y mis hwn yn ystod Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae'r animeiddiad, sef ‘Community Connections in Swansea Spaces’, yn cynnwys dyfyniadau gan breswylwyr Abertawe, y gofynnwyd iddynt am eu profiadau o'r ‘canolfannau cynnes’ a grëwyd ledled y ddinas yn ystod y gaeaf diwethaf mewn ymateb i'r argyfwng costau byw.

Ymwelodd Ella Rabaiotti, darlithydd troseddeg a fu'n arwain yr ymchwil, â'r ‘canolfannau cynnes’, a adwaenir hefyd fel ‘Lleoedd Llesol Abertawe’, lle agorodd sefydliadau cymunedol a mannau cyhoeddus eu drysau i gynnig lle cynnes i eistedd, yfed diod boeth a chael cymorth lleol.

Ar ôl siarad â mwy na 40 o breswylwyr am y canolfannau, daeth ei hymchwil o hyd i themâu sy'n cyd-fynd â diben y mannau o fod ‘yn ddiogel, yn gynnes ac yn groesawgar’.

Gwelwyd bod y canolfannau'n llesol yn ystod yr heriau costau byw. Dywedodd preswylwyr hefyd fod Lleoedd Llesol Abertawe yn fannau diogel a chynhwysol. Meddai un cyfranogwr:

 ‘Gallwch chi eistedd unrhyw le yma ac mae pawb yn garedig, fel cymuned.’ 

O ganlyniad, canfyddiad mwyaf arwyddocaol yr ymchwil oedd effaith Lleoedd Llesol Abertawe ar feithrin cysylltiadau cymdeithasol a lleihau unigedd.

Fel rhan o'r prosiect ymchwil, a ariannwyd drwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, cynhyrchwyd y fideo ar y cyd â MAD Abertawe – sefydliad cyfiawnder cymdeithasol sy'n gwrthwynebu tlodi ar lawr gwlad.

Cafodd yr animeiddiad ei rannu'n wreiddiol mewn digwyddiad cymunedol i drafod gwersi'r cynllun, cyn cael ei lansio'n gyhoeddus yng Ngŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ddiweddar. Erbyn hyn, gellir ei wylio ar-lein.

Meddai Ella:

‘Nod yr animeiddiad yw helpu'r ymchwil i gyrraedd cynulleidfa ehangach mewn ffordd fwy hygyrch, drwy adrodd stori'r canolfannau cynnes gan y bobl sy'n ymweld â nhw ac yn eu trefnu.’

Mae Lleoedd Llesol Abertawe'n parhau i weithredu ledled y ddinas. Ceir rhagor o fanylion yn y rhestr o leoedd. Mae Ella yn bwriadu cynnal rhagor o ymchwil i gyfraniad y lleoedd llesol at eu cymunedau a’r agenda ehangach o ran tlodi a chyfiawnder cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth am yr ymchwil, mae croeso i chi e-bostio: e.c.rabaiotti@abertawe.ac.uk

Rhannu'r stori