Dr Victoria Silverwood o'r Adran Droseddeg yn cyflwyno sgwrs ‘The Crisis of Concussion. How can Sport Respond’ yng Ngŵyl y Gelli.

Elusen annibynnol a arweinir gan ei chenhadaeth yw Gŵyl y Gelli. O'i chartref yn nhref y llyfrau, Gelli'r Gandryll, mae'n gweithio i ysbrydoli, archwilio a difyrru drwy ddigwyddiadau a phrosiectau cynaliadwy ledled y byd. 

"Roedd yn anrhydedd mawr cael fy ngwahodd i gynrychioli Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli ac annerch cynulleidfa mor barod i ryngweithio, oedd â diddordeb mawr mewn cyfergyd ar y cae chwarae. Canolbwyntiodd fy sgwrs ar bwysigrwydd deall anafiadau i'r pen mewn chwaraeon, o safbwynt diwylliannol a chymdeithasol, ar sail fy 16 mlynedd o ymchwil academaidd ymhlith athletwyr mewn chwaraeon cyswllt. Mae braidd yn anarferol i droseddegydd fynegi barn ar chwaraeon, ond Abertawe yw'r brifysgol gyntaf yn y DU i gynnig modiwl mewn Troseddeg Chwaraeon Critigol."

Mae hyn yn cyd-fynd â grŵp ymchwil newydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol o'r enw 'Canolfan Ymchwil i Chwaraeon a Chymdeithas Abertawe (SCORSS)' sy'n mabwysiadu ymagwedd amlddisgyblaethol at ystyried diwylliannau chwaraeon a hamdden o amrywiaeth eang o safbwyntiau.

Am rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau rhydweithio yn y dyfodol, plîs cysylltwch: v.s.m.silverwood@Swansea.ac.uk

Rhannu'r stori