Atebion ynni arloesol ar gyfer Affrica Is-Sahara

Mae gwledydd Affrica Is-Sahara yn wynebu her ynni ddwbl: darparu mynediad at drydan i gannoedd o filiynau o'u dinasyddion a gwneud hyn mewn modd gwyrdd a chyfiawn. 

Cydweithredodd Prifysgol Abertawe â MOPO i asesu'r galw, y cyfleoedd a'r heriau ar gyfer cynnyrch newydd MOPO: sef batri 1KWh talu-wrth-ddefnyddio, gan adeiladu ar lwyddiant eu batris 50Wh. Mae'r ddau fath o fatri yn cael eu gwefru mewn hybiau MOPO gan ddefnyddio technoleg ffotofoltäig solar ac maen nhw'n cael eu rhentu i gwsmeriaid am hyd at 24 awr.

Ar sail ein hymchwil yn Liberia a Sierra Leone, gwnaethon ni ganfod bod galw mawr am y cynnyrch newydd hwn. Yn benodol, mae busnesau bach, megis siopau teilwra, trin gwallt a gwefru ffonau symudol neu werthwyr diodydd oer, wedi mynegi eu diddordeb yn y cynnyrch. Yn ddiddorol, roedd y galw yn arbennig o amlwg mewn ardaloedd lle roedd grid trydan eisoes wedi'i sefydlu. Yma, mae busnesau wedi buddsoddi mewn cyfarpar trydanol ond, oherwydd blacowts beunyddiol, mae'r batris hawdd-eu-rhentu’n hanfodol ar gyfer gweithgareddau creu incwm mentrau bach.

Cefnogwyd y gwaith hwn gan grant Energy Catalyst Innovate UK.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch y prif ymchwilydd, yr Athro Krijn Peters yn K.Peters@abertawe.ac.uk