Os nad ydych yn gallu cerdded neu feicio i'n campysau, rydym yn eich annog i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

Mae cludiant cyhoeddus yn ffordd ddiogel, fforddiadwy a chynaliadwy o fynd hwnt ac yma.

Mae rhwydwaith Uni Bws First Cymru'n cysylltu ein dau gampws a chanol y ddinas. Mae amrywiaeth o opsiynau tocynnau a gallwch gael gostyngiadau gwych os ydych yn cyflwyno cais am Fy Ngherdyn Teithio

Mae'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am deithio i Brifysgol Abertawe ac oddi yno ar gludiant cyhoeddus ar gael isod:

Gwybodaeth am Rhwydwaith Uni Bws First Cymru - Dewch i wybod eich gwasanaethau bws newydd

Mae rhwydwaith First Bus Uni Bws wedi’i gynllunio o amgylch anghenion myfyrwyr Abertawe ac mae’n cynnwys pob ardal llety myfyrwyr.

Y rhifau gwasanaeth y mae angen i chi eu gwybod yw:

90, 90A, 91, 92, N91, N92.

Mae cwymplen o amserlenni ar gael yma.

I ddysgu mwy am opsiynau tocynnau blynyddol, yn ystod y tymor, bwndel ac ôl-raddedig, ewch i wefan First Bus isod.

Wefan First Bus

Gwasanaethau Bws

Fy Ngherdyn Teithio – Tocyn Bws sy’n rhoi Disgownt i bobl 16-21 oed sy’n byw yng Nghymru

Gwasanaethau Rheilffordd

GWASANAETHAU TACSI

Y Diweddaraf

Cludiant Cyhoeddus - Cwestiynau Cyffredin