Crëwch atgof parhaus a gwnewch gamau breision dros iechyd meddwl

Gall colli rhywun sy'n agos atoch fod yn anodd dros ben, ac mae hi mor bwysig canfod ffordd barhaus o'i gofio.  

Beth am gymryd rhan yn Hanner Marathon Abertawe a thalu teyrnged i’ch anwylyd drwy ein helpu i godi arian hollbwysig i gefnogi iechyd meddwl. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cymryd camau breision dros les gwell, ac yn credu na ddylai unrhyw un sy'n cael trafferth â'i iechyd meddwl ddioddef ar ei ben ei hun.  

Sut i gymryd rhan

Mae pob taith yn dechrau gydag un cam, felly p'un a ydych chi'n athletwr elît neu'n rhedeg hanner marathon am y tro cyntaf, mae Hanner Marathon Prifysgol Abertawe'n berffaith i bawb, beth bynnag eich gallu.

Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o godau mynediad i fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.  Os oes gennych ddiddordeb mewn rhedeg er cof am anwylyd a chodi arian hanfodol i gefnogi iechyd meddwl, cysylltwch â'n tîm a fydd yn gallu rhoi côd unigryw i chi i brynu lle rhedeg am bris gostyngol a'ch cefnogi wrth greu eich tudalen codi arian unigryw.