Charlotte Crumpler
"Gwnes i'r penderfyniad gorau yn fy mywyd yn 2014 pan benderfynais drosglwyddo i Abertawe i astudio'r Cyfryngau a Chyfathrebu - rwy'n astudio pwnc rwy'n angerddol amdano mewn dinas rwy'n dwlu arni. Mae Abertawe ei hun yn fywiog, gyda thraethau hir a digon i'w brofi - rwy'n teimlo'n lwcus iawn fy mod yn byw yma. Mae popeth ar garreg drws y myfyrwyr, ac mae'r cyfoedion a'r staff yn gyfeillgar, gan ragori ar ddisgwyliadau i wneud yn siŵr eich bod yn llwyddo. Dyma fy ail flwyddyn, a'm blwyddyn olaf, yn fyfyriwr israddedig yn Abertawe, ac ers symud yma rwyf wedi cael cynnig llawer o gyfleoedd - mae fy marciau'n gwella, a'm profiadau hefyd. Rwyf wedi cyflawni dau interniaeth wrth astudio yma, sydd wedi cynyddu fy hyder yn fy nhargedau ar gyfer y dyfodol ac ynof i fy hun. Rwyf hefyd wedi cael cyfle i wirfoddoli gydag elusen yn y Brifysgol, gan roi cyfle i mi ddod yn ymddiriedolwr a gwirfoddoli yn Sambia am fis. Mae fy narlithwyr pwnc a'r cwrs yn wych, a ni feddyliais fyth y gallwn ddweud yn agored fy mod yn mwynhau ysgrifennu traethodau neu fynychu darlithoedd. Y peth gwych am y campws yw bod popeth y mae eu hangen arnoch yno: mae gan y darlithwyr oriau i'w rhoi i chi ar gyfer arweiniad, mae timau ymroddedig o bobl i'ch helpu ag unrhyw faterion, mae'r Llyfrgell yn anhygoel, ac mae hyd yn oed siop, theatr, bar a chlwb … beth arall sydd ei angen ar fyfyrwyr? Dyma pam rwyf wrthi'n gwneud cais i astudio gradd Meistr yma - dydw i ddim eisiau gadael."