Students looking at a model of a torso with a lecturer

Y Darparwr Addysg Gofal Iechyd Mwyaf yng Nghymru

Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe yw'r darparwr addysg gofal iechyd mwyaf yng Nghymru, gan dynnu ynghyd disgyblaethau iechyd, gofal cymdeithasol, heneiddio, plant a phobl ifanc a seicoleg. Arweinir y Coleg gan ymchwil a chaiff ei ysgogi gan ymarfer. Mae ganddo gysylltiadau hirsefydlog ac uchel eu parch â'r GIG, gwasanaethau cymdeithasol a llawer o gwmnïau yn y sector preifat. Mae'r cysylltiadau hyn yn sicrhau bod ein haddysgu a'n hymchwil yn seiliedig ar y datblygiadau diweddaraf ac yn ymatebol i ofynion cyflogwyr. Gydag wyth canolfan ymchwil ac adran bwrpasol, cyfleusterau rhagorol, ynghyd ag arbenigedd a phrofiad helaeth, mae’r Coleg mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu datblygiad proffesiynol i sefydliadau.

Datblygiad Proffesiynol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

Darganfyddwch ein cyrsiau a dysgwch am yr Ysgol Feddygol

Modelau sgerbydau dynol mewn labordy