Kuwait Institute of Scientific Research logo

Sefydliad ymchwil wyddonol Kuwait

CEFNDIR

Gwnaeth Sefydliad Ymchwil Wyddonol Kuwait (KISR) gysylltu â Phrifysgol Abertawe am gwrs ar ddadansoddi polymerau thermol uwch. Roedd  KISR yn y broses o ehangu ei faes ymchwil ac roedd yn gweithio gyda nifer o bartneriaid allweddol ac yn dymuno gwella ei allu.

YR HER

Dewiswyd Prifysgol Abertawe oherwydd ei henw da rhyngwladol a’r cyfleusterau o’r radd flaenaf yn y Coleg Peirianneg.

BODLONI’R HER

Nid oedd cwrs addas ar gael yn y catalog modiwlau safonol, felly drwy gydweithio agos, lluniwyd cwrs hyfforddi penodol a oedd yn bodloni gofynion ymarferol KISR; hyfforddiant ar ddadansoddi polymerau drwy ddefnyddio dulliau dadansoddi uwch (DMA, DSC, FTIR a TGA-GCMS).

CANLYNIADAU LLWYDDIANNUS

Cyflwynwyd y cwrs dros 3 wythnos ac roedd yn cynnwys hyfforddiant damcaniaethol ac amser i samplau KISR eu hunain gael eu cynnal a’u dadansoddi, wedi’u cefnogi’n agos gan academyddion o’r Coleg. Roedd y cwrs yn diwallu anghenion hyfforddi KISR yn llwyr gan ei alluogi i symud ymlaen i ddatblygu ei bortffolio profi ac ymchwil ei hun. Arweiniodd yr hyfforddiant hefyd at gyhoeddiad ar y cyd rhwng KISR a Phrifysgol Abertawe.

"Cyflwynodd y cwrs bopeth yr oeddwn wedi gofyn amdano. Gallaf weld nifer o gyfleoedd ymchwil yn y dyfodol a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch o lwybrau ailgylchu mecanyddol. Mae’r ymweliadau â’r Adrannau Cemeg a Pheirianneg Deunyddiau wedi bod yn addawol iawn ar gyfer rhannu llwyddiannau’r dyfodol gyda’r grŵp gwych hwn. O ran yr addysgu, y dysgu proffesiynol a datblygiad, roedd eich gallu i deilwra cyrsiau penodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol, a hefyd gynorthwyo gyda chyrsiau arfaethedig yn y dyfodol yn anhygoel. Drwy’r cydweithio hwn, rwyf wedi gwella fy ngwybodaeth yn fawr o’r dulliau sydd ar gael ac mae’r cyfleusterau’n ardderchog. O ganlyniad, rydym yn trafod cydweithio ymhellach ar waith ymchwil gyda Phrifysgol Abertawe o ran rheoli gwastraff." Dr Sultan Al-Salem, Gwyddonydd Ymchwil Cyswllt

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut gallwn eich helpu gyda’ch anghenion hyfforddiant proffesiynol, cysylltwch â ni.