Y prosiect

Yr Athro Liz McAvoy (Adran Iaith Saesneg) yw'r Prif Ymchwilydd ar y prosiect ymchwil hwn a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, sy'n werth £156,548.  

Yr Ardd  Amgaeëdig : Ffocws Pleser, Myfyrdod a Gwella yn yr Hortus Conclusus 1100-1450 yw'r horus conclusus [yr ardd amgaeëdig] rhwng 1100 a 1450, a'i bortreadu mewn nifer o gyd-destunau: llenyddol, hanesyddol, diwinyddol, ffisegol a meddygol. Yn benodol, ei nod yw:

  • ystyried gwreiddiau fframio hanesyddol a llenyddol yr ardd amgaeëdig a'i swyddogaethau mewn cyd-destunau Iddewig, Cristnogol a Moslemaidd;
  • olrhain y cydberthyniad trawiadol rhwng y planhigion a’r rhywogaethau di-rif sy'n llenwi Cân y Caneuon Beiblaidd, y rhai hynny a ddisgrifir mewn traethodau ar erddi a'r rhai hynny mewn testunau meddygol fel meddyginiaeth ar gyfer anhwylderau'r groth ac anhwylderau eraill sy'n benodol i fenywod;
  • herio'r cysyniad o draddodiadau ar wahân ar gyfer dealltwriaeth ganoloesol o'r ardd amgaeëdig, drwy graffu ar y gwagleoedd trothwyol a esgeuluswyd a'r gorgyffwrdd rhwng y traddodiadau hyn;
  • pennu i ba raddau yr oedd gardd y Canol Oesoedd yn lle y pennwyd rhywedd(au) iddo ac asesu'r rôl yr oedd dealltwriaeth ryweddol o'i bath yn ei chwarae mewn cymdeithas a diwylliant y Canol Oesoedd.

The Lover and Dame Idleness outside the Walled Garden (BL, MS Harley 4425, f.12v.  By kind permission of the British Library

(Llun:  The Lover and Dame Idleness outside the Walled Garden (BL, MS Harley 4425, f.12v).  Drwy garedigrwydd haul y Llyfrgell Brydeinig)

Ym mhedwaredd bennod Cân y Caneuon, sef un o destunau Beiblaidd mwyaf poblogaidd a dylanwadol y Canol Oesoedd, mae'r siaradwr yn datgan yn enwog: "Mae fy chwaer, fy ngwraig, yn ardd amgaeëdig, yn ardd amgaeëdig, yn ffynnon wedi'i chau (4:12). Yn y testun hwn, portreadir yr hortus conclusus fel lle benywaidd, gwraidd ffrwythlondeb, cynhyrchiant, llewyrch a rhywioldeb a chwant heb gywilydd. At hynny, mae disgwrs barddol sydd mor gadarn yn ei fenyweidd-dra'n awgrymu bod yr ardd amgaeëdig yn gyfystyr â chorff y fenyw, a'r groth y tu mewn iddo: fel y adrodda'r siaradwraig yng Nghân 5: 4: 'Rhoddodd fy nghariad ei law drwy dwll y clo, a gwefreiddiwyd y tu mewn imi gan ei gyffyrddiad.'

Fel rhan o'r Hen Destament, roedd dathliad clir y Gân o chwant a rhywioldeb dynol yn peri problem fawr i ddiwinyddion Iddewig a Christnogol, a oedd wedi tueddu i'w hailddarllen, ei hailgyflunio, ei halegoreiddio a'i hailalegoreiddio mewn ffyrdd amrywiol o ran y berthynas rhwng Duw a'r Iddewon, neu rhwng Mair a Christ/Cynulliad a Christ/Crist a'r enaid dynol. Fodd bynnag, mae awduron Cristnogol wedi tueddu i ddarllen y gerdd gyfan fel dathliad o'r berthynas briodasol rhwng Mair Forwyn a Christ. Yr ymdriniaeth fwyaf dylanwadol o'r Gân yn y traddodiad Cristnogol oedd honno gan Bernard o Clairvaux (a fu farw ym 1153) ac a gyfluniodd Mair Forwyn fel ymgorfforiad o'r berthynas agosaf oll rhwng Duw a dynoliaeth mewn cyfres o ddarnau alegoraidd, ac at hynny, berthynas a oedd yn adlewyrchu'r math o undeb ysbrydol yr oedd yr enaid dynol yn dyheu amdano. O ganlyniad, bu ymdriniaeth alegoraidd Bernard yn gymorth wrth sefydlu llwyfan awdurdodol ar gyfer ymddangosiad hollbresennol yr ardd amgaeëdig fel lle cysegredig a allai weithredu fel dynodydd lluosog yn ysgrifennu ac eiconograffi'r Canol Oesoedd.

Yn nychymyg y Canol Oesoedd, roedd hefyd gan yr ardd amgaeëdig gysylltiadau agos â Gardd Eden a'r Cwymp. Dyma oedd tarddiad problemau rhywioldeb, poen ac alltudiaeth Iddewig-Gristnogol, o ganlyniad i anghysondeb y fenyw gyntaf, Efa. Felly, mae dehongliadau cadarnhaol, alegoraidd o'r Gân wedi bod yn ddefnyddiol wrth ailystyried yr ardd a'r rhai a oedd yn ei defnyddio yn y dychymyg Cristnogol, gan gynnig gwrthwenwyn cadarnhaol, cynhyrchiol a chysegredig i'r ardd honno a oedd llawer yn fwy peryglus, sef Gardd Eden, gyda'r neidr ddiafolaidd yn ei chanol. Yn ogystal, cynigodd yr ardd newydd hon, ar ei newydd wedd, le 'diogel' rhag 'peryglon' benyweidd-dra, lle oedd modd ei amgáu, ei atal a'i ailgyflunio – i'r fath raddau, erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, roedd Mair Forwyn ei hun, a hithau'n gynrychiolydd yr Ymddŵyn Difrycheulyd, yn cael ei hystyried yn 'ardd' yr Ymgnawdoliad dwyfol drwy gyfrwng ei groth 'amgaeëdig' a oedd 'wedi'i chau'. Felly, nod y prosiect hwn yn y pen draw fydd dadbacio arwyddocâd ehangach yr ardd furiog yn niwylliant y Canol Oesoedd, ynghyd â gwaith diwylliannol y cafodd y defnydd lluosog hwn effaith arno.