Mae Dr Rebecca Clifford, sy’n Athro Cysylltiol yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe, yn gweithio ar gymrodoriaeth ymchwil gwerth £39, 297, sy’n mynd â hanes plant mewn rhyfel i gyfeiriadau newydd a chyffrous. Dyfarnwyd y gymrodoriaeth gan Ymddiriedaeth Leverhulme. 

Mae trafodaethau cyfredol ynghylch plant yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac ar ei ôl yn canolbwyntio’n benodol ar sut y canfyddwyd plant gan yr oedolion a oedd yn gofalu amdanynt. Mae lleisiau plant eu hunain fel goddrychau hanesyddol yn eu rhinweddau eu hunain yn aruthrol o absennol yn llawer o’r llenyddiaeth hon. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar nid yn unig blant fel goddrychau cofio, ond ar lwybrau’r goddrychedd hwn wrth i blant ddatblygu’n oedolion, gan ddadlau bod gan blant ffyrdd unigryw, sy’n aml yn chwyldroadol, o gofio trawma rhyfel a hil-laddiad, gyda chanlyniadau sylweddol hirhoedlog ar gyfer cofio cyhoeddus a phersonol.

Dr Rebecca Clifford

Mae Dr Cliffordd yn hanesydd Ewrop Gyfoes, a’i phrif ddiddordeb yw cofio’r Ail Ryfel Byd yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Mae’n gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol a’r Academi Addysg Uwch. Cwblhaodd ei DPhil mewn Hanes Modern ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2008, a bu’n Gymrawd Ymchwil Iau yng Ngholeg Caerwrangon, Rhydychen cyn ymuno â’r adran yn 2009.

Mae Dr Clifford hefyd yn dadlau bod gwaith diweddar ar gofio cynnar yr Holocost, a oedd mor ddylanwadol wrth wrthod syniad ‘tawelwch’ y 1940au hwyr a’r 1950au, hefyd yn dweud mwy wrthym am geisiadau gwleidyddol i lywio barn y cyhoedd na sut brofiad oedd cofio colled mor ddinistriol yn sgil y trallod anferthol yn dilyn y rhyfel. Mae ei gwaith yn cymryd ymagwedd wahanol a gwreiddiol, gan roi llwyfan blaenllaw i emosiynau a chyrff a chan olrhain ffiniau atgofion yr Holocost a oedd yn seiliedig ar nid yn unig geisiadau (gan oedolion) i gwtogi emosiynau ac atgofion (plant) ond hefyd fethiant y ceisiadau hyn dros amser. Mae’n dadlau os ydym yn canolbwyntio ar emosiynau cofio yn hytrach na gwleidyddiaeth cofio, bydd pobl gyffredin yn dod i’r amlwg fel goddrychau llawer mwy pwerus yn y prosesau dryslyd sydd wedi’u plethu ynghyd sy’n sail i greu cyd-atgofion.

Caiff allbwn mawr cychwynnol y prosiect, y llyfr Survivors : Children After the Holocaust, ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Yale ym mis Awst 2020. Ar hyn o bryd, mae Dr Clifford yn gweithio ar ail lyfr sy’n gysylltiedig â’r prosiect.