Prosiect datblygu ac ymchwil dwy flynedd yw ‘Arwain Dysgu Cydweithredol’ (LCL), a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys trawstoriad o ysgolion yng Nghymru sy’n gweithio ar ddatblygiad gyda Dr Lyn Sharratt ar hyn o bryd. Mae Dr Sharratt yn ymchwilydd ac yn awdur sydd wedi cyhoeddi llawer o ddeunyddiau. Ei llyfr diweddaraf, “CLARITY: What Matters MOST in Learning, Teaching, and Leading” (Corwin, 2019) yw sail y gwaith datblygu gyda’r ysgolion yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y prosiect.

Nod y prosiect LCL yw meithrin gwybodaeth addysgegol a gallu cyfarwyddol mewn ysgolion, a’r system addysg yng Nghymru yn fwy cyffredinol, drwy broses o hyfforddiant dynodedig gan Dr Sharratt, wedi’i ddilyn gan gyfnodau dwys o weithgarwch cydweithredol pan fydd ysgolion yn ymgysylltu’n ddwfn â’r gwaith o ymholi ac arloesi dan arweiniad gwaith Dr Sharratt.

Front cover of Clarity by Lyn Sharratt

Mae’r rhaglen LCL hefyd yn cysylltu’n ganolog â’r syniad o ‘Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu’, y cwricwlwm newydd yng Nghymru, y Safonau Proffesiynol Cenedlaethol a’r “Genhadaeth Genedlaethol”. Nod yr LCL yw adeiladu’r cyfalaf, y cymhwysedd a’r gallu proffesiynol y mae eu hangen i wella ysgolion a systemau. Mae’r LCL yn cynnwys ysgolion a rhanddeiliaid ar bob lefel yn system Cymru (h.y. Llywodraeth Cymru, Consortia, Arweinwyr Rhanbarthol, Awdurdodau Lleol, Ymgynghorwyr Herio, Penaethiaid ac Athrawon).

Dyma brosiect datblygu ac ymchwil uchelgeisiol sy’n cynnwys amrywiaeth eang o addysgwyr o drawstoriad o ysgolion Cymru. Dyma’r tro cyntaf y mae gwaith Dr Sharratt wedi cael ei gyflwyno ar raddfa fawr yn y DU, felly mae’r prosiect hwn yn amserol ac yn bwysig.

Comisiynwyd ymchwilwyr a gydnabyddir yn fyd-eang o Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe i ymgymryd ag ymchwil i ddarparu data ffurfiannol a chrynodol ar amcanion, prosesau a deilliannau’r gwaith cydweithredol sy’n canolbwyntio ar ysgolion. Mae’r prosiect wedi mabwysiadu ymagwedd sydd â chymysgedd o fethodolegau ac mae’n datblygu adroddiadau astudiaethau achos o sampl o ysgolion. Cyflwynwyd canfyddiadau cychwynnol y prosiect datblygu ac ymchwil hwn gan y prif ymchwilwyr a Dr Sharratt yn 33ain cynulliad y ‘Gyngres Ryngwladol ar gyfer Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion’ ym mis Ionawr 2020.