Trosolwg o'r Prosiect

Ariennir y prosiect hwn gan grant gwerth £30,000 gan yr Academi Brydeinig drwy ei chynllun Partneriaeth a Symudedd Rhyngwladol, sy'n cefnogi ymchwil gydweithredol rhwng prifysgolion yn y DU a thramor. Drwy'r prosiect hwn, bydd Prifysgol Abertawe yn cydweithio â Phrifysgol Diliman y Philipinau (UPD), a bydd yr ymchwil yn dod â chydweithwyr o feysydd gwleidyddiaeth, cysylltiadau cyhoeddus a'r gyfraith ynghyd ym mhob un o'r sefydliadau. Mae'r prosiect hefyd yn ein galluogi i ddod ag academyddion a llunwyr polisi eraill yn y rhanbarth ynghyd i weithio gyda chydweithwyr yn Abertawe ac UPD.

Nod y prosiect hwn yw olrhain datblygiad mecanwaith hawliau dynol ASEAN drwy'r hyn rydym yn disgwyl iddo fod yn gam pwysig yn ei ddatblygiad. Mae'r mecanwaith yn cynnwys nifer o sefydliadau a fframweithiau normadol ond, wrth wraidd ASEAN mae Comisiwn Hawliau Dynol Rhynglywodraethol ASEAN (AICHR) a sefydlwyd yn 2009 a Datganiad Hawliau Dynol ASEAN a fabwysiadwyd gan Benaethiaid Gwladwriaethau ASEAN yn 2012. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd i ddod, disgwylir i'r mecanwaith ddatblygu mewn ffyrdd pwysig.

Rhaid adolygu cylch gorchwyl AICHR erbyn diwedd mis Gorffennaf 2014, er enghraifft, a disgwylir yn eang y caiff mandad 'hyrwyddo' cyfyngedig AICHR ei gryfhau drwy ychwanegu mandad 'amddiffyn' newydd o ganlyniad i'r adolygiad. Yn yr un modd, mae cynlluniau gweithredol yr AICHR yn gofyn iddo ddechrau gwaith ar Gonfensiwn Hawliau Dynol ASEAN sy'n gyfrwymol ar fabwysiadu Datganiad Hawliau Dynol ASEAN nad yw'n gyfrwymol, er disgwylir i sylwebwyr  roi'r gorau i gonfensiwn cynhwysfawr ac, yn hytrach, y bydd yn drafftio nifer o gonfensiynau ar faterion penodol, megis trais yn erbyn menywod, masnachu pobl neu hawliau mewnfudwyr. Mae hefyd sawl her wrth ddatblygu perthnasoedd gweithio rhwng sefydliadau'r mecanwaith, gyda chyrff ASEAN eraill, sefydliadau hawliau dynol a sefydliadau cymdeithas sifil rhanbarthol.

Yn arwyddocaol, mae ASEAN yn bwriadu sefydlu Cymuned Economaidd ASEAN (AEC) erbyn diwedd 2015, yn seiliedig ar sefydlu ardal masnach rydd. Mae cynlluniau cyfochrog yn galw am sefydlu Cymunedau Gwleidyddol a Chymdeithasol ASEAN i gyd-fynd â'r AEC, fel rhan o ymrwymiad ASEAN i fod yn 'gymuned sy'n canolbwyntio ar bobl.' Adnabyddir ASEAN orau fel corff rhynglywodraethol lle rhoddir polisïau ar waith drwy gonsensws yn hytrach na mwyafrif pleidleisio lle gall, er enghraifft,  un wladwriaeth yn unig atal diwygiadau i bolisïau. Fodd bynnag, bydd dyfodiad yr AEC yn gwthio ASEAN tuag at brosesau gwneud penderfyniadau goruwch-genedlaethol newydd yn lle rhai rhynglywodraethol.

I ddiogelu rhag camddefnydd, rydym yn disgwyl y bydd gwladwriaethau democratig yn ASEAN yn mynnu bod gwiriadau ar waith i wrthsefyll pwerau goruwch-genedlaethol ar gyfer ASEAN, gan gynnwys normau a sefydliadau clir i amddiffyn safonau hawliau dynol cyffredinol. Fodd bynnag, mae llawer o sylwebwyr yn ystyried mai hawliau dynol yw'r mater mwyaf cynhennus yng ngwleidyddiaeth gwledydd ASEAN. Felly, rydym yn aros am ddatblygiadau ym mecanwaith hawliau dynol ASEAN ac am arwyddion o ran cymeriad ASEAN yn y dyfodol wrth iddo ddatblygu a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer cymuned sy'n canolbwyntio ar bobl ac yn symud yn raddol o rôl rynglywodraethol i rôl gwneud penderfyniadau ar sail oruwch-genedlaethol a rôl datrys anghydfodau.

Yn ganolog i'r ymchwil hon fydd cyfres o chwe chynhadledd yn Abertawe ac ym Manila dros gyfnod o dair blynedd rhwng 2014 a 2017.

Cynadleddau

Cynhaliwyd y gyntaf o'r cynadleddau hyn yn Abertawe ddydd Gwener, 21 Mawrth 2014, gyda phapurau gan Dr Gerard Clarke a Dr Helen Quane o Brifysgol Abertawe, yr Athro Elizabeth Aguiling-Pangalangan a Herman Kraft o Brifysgol y Philipinau a Dr Sriprapha Petchamarasee o Brifysgol Mahidol yng Ngwlad y Thai. Agorwyd a chaewyd y gynhadledd gan yr Arglwydd Williams o Faglan, Cymrawd er Anrhydedd Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Diwylliannol a chyn Is-ysgrifennydd Cyffredinol y CU. Yna, daeth y pum cyflwynydd yn ôl at ei gilydd fel panel ar gyfer trafodaeth bord gron ar Ddatganiad Hawliau Dynol ASEAN a'i Weithrediad yn Symposiwm Rhydychen ar Astudiaethau De-ddwyrain Asia yng Ngholeg Keble, 22-23 Mawrth.

Cynhaliwyd yr ail gynhadledd ym Manila ym Mhrifysgol Dalian y Philipinau ym mis Hydref lle bu cyflwynwyr yn ymgynnull fel panel ar gyfer trydedd cynhadledd ddwyflynyddol Rhwydwaith Astudiaethau Hawliau Dynol De-ddwyrain Asian (SEAHRN) yn Kuala Lumpur, Malasia, rhwng 15 ac 17 Hydref 2014.

Portrait of Gerard Clarke

Gerard Clarke

Dr Gerard Clarke, Athro Cysylltiol Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol yn yr Adran Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Diwylliannol (PCS) yw'r Prif Ymchwilydd ar y prosiect hwn, gan weithio gyda Dr Alan Collins (PCS) a Dr Helen Quane (Coleg y Gyfraith) sy'n gyd-ymchwilwyr.