Lladd yn Fwriadol: Llofruddiadau Rheolaidd ym Mholisi Tramor yr UD

A Predator drone launching a hellfire missile.

Mae’r defnydd o dronau gan Weinyddiaeth Obama wedi creu diddordeb brwd mewn llofruddiadau bwriadol. Fodd bynnag, mae newydd-deb technolegau dronau’n golygu bod y rhan fwyaf o’r llenyddiaeth yn cuddio’r ffaith bod gan bolisi o lofruddiadau hanes hir ym mholisi tramor yr UD. Prin yw’r ysgolheigion sydd wedi nodi natur reolaidd y llofruddiadau hyn, ond mae’r rhesymau y tu ôl iddynt yn parhau i fod yn anhysbys.

Nod y prosiect hwn yw asesu dan ba amgylchiadau y mae cyflawni llofruddiadau wedi cael eu hystyried yn opsiynau dilys a chyfiawn i lunwyr polisi tramor yr UD. Gan ddefnyddio modelau gwneud penderfyniadau Allison, bydd y prosiect yn datblygu tri gosodiad er mwyn dehongli’r patrwm o lofruddiadau’n diflannu ac yn ailymddangos. Fel rhan o raglen ymchwil ehangach, bydd y prosiect hwn yn ystyried y ‘tymor archwilio’ yng nghanol y 1970au ac ar ailddyfodiad llofruddiadau yn y 1980au. Wrth i ddronau ymsefydlu’n gadarn fel yr arf gwrthderfysgaeth a ffefrir, mae gan ddehongliadau o’r rhesymau sy’n sail i bolisi  llofruddiadau oblygiadau clir ar gyfer y ddadl gyhoeddus bresennol a llunio polisi.

Ariennir y prosiect hwn gan Grant Bach Leverhulme/yr Academi Brydeinig.

Prif Ymchwilydd:  Dr Luca Trenta, Yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

GWEITHDY RHYNGWLADOL

"A New Platform: Exploring the Effectiveness of UAVs and Drones": 13 Hydref 2015, IISS Llundain

Mae gweithdy o’r enw ‘A New Platform: Exploring the Effectiveness of UAVs and Drones’ wedi’i drefnu gan Dr Luca Trenta o Brifysgol Abertawe a’r Athro Jasen Castillo o Ysgol Llywodraeth a Gwasanaeth Cyhoeddus Bush. Mae’r gweithdy’n adeiladu ar Bartneriaeth Strategol y Brifysgol â Thecsas. Bydd yn dod ag ysgolheigion o Ewrop, y DU ac UDA sy’n astudio effeithiolrwydd milwrol Cerbydau Awyr heb Yrwyr (UAV) at ei gilydd. Nod y gweithdy yw creu tîm rhyngwladol o ymchwilwyr UAV ac effeithiolrwydd dronau a gwneud ceisiadau am gymorth ymchwil drwy grantiau allanol. Bydd y gweithdy’n ymdrin â thri phrif glwstwr ymchwil:

1) Dronau ac effeithiolrwydd milwrol Mae’n wir fod ymchwil yn y maes hwn wedi bod yn helaeth. Fodd bynnag, bydd y gweithdy yn cyfrannu at y pwnc mewn dwy brif ffordd. Yn gyntaf, bydd yn ymchwilio i effeithiau tymor hwy yr ymosodiadau gan ddronau. Yn ail, bydd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng dronau a’r meysydd milwrol.

2) Ehangu effeithiolrwydd y ddadl: Bydd y panel yn ymchwilio i effeithiolrwydd y tu hwnt i’r amgylchedd milwrol a strategol, drwy ystyried effeithiau  enw da  yr Unol Daleithiau, ar yr effeithiau ar gymunedau lleol ac effaith dronau ar fenywod.

3) Gwyliadwriaeth a gwarantiad estynedig o ddiogelwch: Mae dronau’n chwarae rôl sy’n gynyddol flaenllaw yng ngwaith gwyliadwriaeth ac yn strwythur y lluoedd a ddefnyddir gan yr Unol Daleithiau a’i chynghreiriad. Bydd y gweithdy hwn yn ymchwilio i wyliadwriaeth dronau mewn cyd-destun Ewropeaidd a rôl dronau mewn ataliaeth estynedig.

Mae’r cyfranogwyr a gadarnhawyd yn cynnwys: Dr Wali Aslam, Prifysgol Caerfaddon; Yr Athro Alexander Downes, Ysgol Materion Rhyngwladol Elliott; Dr Christian Enemark, Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Caroline Kennedy, Prifysgol Hull; Yr Athro Austin Long, Prifysgol Columbia; Dr Trevor McCrisken, Prifysgol Warwick; Dr Richard McNamee, Ysgol Llywodraeth a Gwasanaeth Cyhoeddus Bush, Texas A&M; Richard Reeves, Cyfarwyddwr Rhaglen Diogelwch Cynaliadwy (ORG) Grŵp Ymchwil Rhydychen; Chris Woods, Cymrawd Gwadd yng Ngholeg QM, Awdur Sudden Justice, Prifysgol Llundain.