Dyfarnwyd Gwobr Ymgysylltu Seren y Dyfodol yr Academi Brydeinig (BARSEA) i Dr Luca Trenta, o’r Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol.Nod y gwobrau hyn yw galluogi academyddion gyrfa gynnar i gymryd rhan yng ngwaith yr Academi mewn ffordd ragweithiol a gwella eu sgiliau a’u datblygiad gyrfa eu hunain drwy drefnu digwyddiadau, hyfforddiant a gweithgareddau mentora ar gyfer amrywiaeth eang o ymchwilwyr gyrfa gynnar.

Mae gan raglen Dr Trenta ddwy nod benodol.Yn gyntaf, bydd y prosiect yn sefydlu rhwydwaith o ymchwilwyr gyrfa gynnar (ECR) sy’n gweithio ar weithrediadau cudd yr UD a Phrydain. Bydd y rhwydwaith hwn yn gweithio gydag academyddion profiadol i ymchwilio i’r heriau wrth ddeall ac ymchwilio i weithrediadau cudd. Yn ail, bydd rhwydwaith yr ECR yn cynnwys athrawon hanes a gwleidyddiaeth yr UD a’r DU er mwyn cynyddu dealltwriaeth o weithrediadau cudd ac ehangu addysgu’r pwnc mewn addysg uwchradd. Bydd digwyddiadau cyfranogi yn galluogi cyfranogwyr i rannu adnoddau, profiadau ac arfer gorau. Yn ogystal, bydd y rhwydwaith yn cryfhau ymdeimlad o gymuned rhwng addysg uwchradd ac uwch drwy gyflwyniadau’r ECR mewn ysgolion, pyst blog, podlediadau, cystadleuaeth y traethawd i ysgolion a phrototeip o lyfrau comics.

Bydd y rhaglen yn sefydlu rhwydwaith o ECR sy’n gweithio ar weithrediadau cudd (e.e. gweithrediadau cudd-wybodaeth a pharamilwrol. Y nod yw cynyddu gwelededd y pwnc a meithrin diddordeb y tu hwnt i addysg uwch. Drwy gydweithio ag athrawon ar lefelau addysg amrywiol, bydd y rhaglen yn helpu i gynnwys gweithrediadau cudd yn y cwricwlwm. Mae’r pwnc yn galluogi myfyrwyr i ymdrin â materion sensitif a pherthnasol drwy feithrin trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth a dileu’r ddibyniaeth ar esboniadau cynllwyngar o bolisi tramor. Mae nodi adnoddau addysgu ac ymchwil a chynnwys athrawon ysgolion uwchradd wrth ddrafftio deunydd addysgu yn galluogi myfyrwyr i ymgyfarwyddo â deunyddiau ac ymagweddau a ddefnyddir yn y brifysgol.

Mae natur ryngddisgyblaethol gweithrediadau cudd yn golygu bod gan ymchwilwyr gyfleoedd cyfyngedig i rannu eu profiadau. Mae eu harbenigedd yn aml yn gyfyngedig i brifysgolion ac nid yw'n cyfeirio addysgu mewn ysgolion uwchradd. Bydd gwleidyddiaeth Americanaidd yn elfen orfodol o gyrsiau Safon UG a Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth. Mae gweithrediadau cudd yn chwarae rôl allweddol mewn trafodaethau ynghylch Arlywyddiaeth Ymerodraethol a phŵer gweithredol, sydd wedi’u cynnwys yn uned A2 ddrafft CBAC. Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar ymchwil a chysylltau a wnaed yn ystod fy mhrosiect ar rôl Llywodraeth yr UD mewn llofruddiaethau gwleidyddol ac fe'i cefnogir gan Grant Bach yr Academi Brydeinig.  

Cynhelir digwyddiadau ymgysylltu ym mis Mai 2017 (IISS, Llundain) a mis Medi 2017 (Abertawe).

Portrait of Luca Trenta

Ymunodd Dr Luca Trenta ag Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol Prifysgol Abertawe yn 2014. Cyn hynny, bu’n Gymrawd Addysgu yn Ysgol Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Nottingham. Enillodd ei PhD mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Pholisi Tramor yr UD o Brifysgol Dyrham.Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys Damcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol; Polisi tramor UDA; Hanes yr UD; Hanes y Rhyfel Oer; Dronau a llofruddio bwriadol; Cudd-wybodaeth a gweithredu cudd; Astudiaethau Strategol; ac Astudiaethau Diogelwch.

Out of the Shadows Project logo