Mae gwaith ymchwil yr Athro Crick yn deillio o graffu ar system addysg Cymru o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol. Fe'i cydnabyddir yn rhyngwladol yn bennaf am arwain y broses o ddiwygio addysg gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru dros gyfnod estynedig (ers 2011), yn ogystal â'i ymchwil i addysg cyfrifiadureg. 

Gan adeiladu ar ei waith blaenorol fel un o aelodau gwreiddiol Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru (2012-2016), penodwyd yr Athro Crick yn un o gyd-gadeiryddion yr adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm TGCh (2013), a gafodd ddylanwad uniongyrchol ar yr adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu yn 2015, gan arwain at newidiadau mawr o ran gwyddoniaeth, TGCh a sgiliau digidol trawsgwricwlaidd.  

Fel rhan o ddiwygiadau sylweddol y Cwricwlwm i Gymru, penodwyd yr Athro Crick i gadeirio'r broses o ddatblygu maes dysgu a phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Cwricwlwm newydd i Gymru (2017-2020). Cyhoeddwyd y Cwricwlwm newydd i Gymru ym mis Ionawr 2020, a bydd yn dechrau ym mis Medi 2022.

Llun pen o Tom Crick

Yn berthnasol i'r rôl hon, penodwyd yr Athro Crick i gadeirio'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (NNEST), sef buddsoddiad strategol gwerth £4m gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad proffesiynol ymarferwyr yn y maes allweddol hwn yn y Cwricwlwm newydd i Gymru (2017-2019). Mae hwn wedi cyfrannu'n uniongyrchol at y broses o ddatblygu strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer ymchwil ac ymchwiliadau ym maes addysg.