Astudiodd Sam Cook ar gyfer BA mewn Hanes Modern a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe.  Aeth e ymlaen i gwblhau ei MA mewn Hanes yn y Brifysgol yn 2017. 

Yn ystod ei amser yn Abertawe, dewiswyd Sam i fod yn gapten tîm chynghrair rygbi’r Brifysgol.Hefyd, gwirfoddolodd i hyfforddi rhaglen rygbi’r menywod. 

Llun pen o Sam Cook

Yn  ddiweddar, mae ef wedi gweithio ym myd chwaraeon proffesiynol yng nghlwb rygbi’r Scarlets lle mae ei swydd yn cynnwys gwerthu a meithrin perthnasoedd, sy’n hanfodol i’r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a’r clwb rygbi. 

Beth mae Rheolwr Cyfrifon i’r Scarlets yn ei wneud? 

Fy swydd pan gyrhaeddais i yn y Scarlets flwyddyn yn ôl oedd Datblygu Busnes.Roedd hyn yn golygu chwilio am noddwyr masnachol newydd ar gyfer y clwb a helpu i gynyddu’r incwm masnachol.Yn ddiweddar, mae’r swydd wedi newid i faes rheoli cyfrifon sy’n cynnwys gweithio ochr yn ochr â phartneriaid a noddwyr sydd gan y Scarlets ar hyn o bryd, er mwyn meithrin a datblygu eu perthnasoedd masnachol gyda’r clwb. 

Pam gweithio ym myd rygbi elît a pham y Scarlets? 

Mae rygbi bob amser wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd, ac yn gariad mawr i mi.Yn yr un modd, mae gweithio yn niwydiant rygbi bob amser wedi bod yn freuddwyd i mi.Pan ddaeth cyfle i ymgeisio am swydd gyda’r Scarlets roedd yn rhywbeth na allwn ei adael – mae gan y clwb  hanes hir a balch, gwnes i gydio yn y cyfle i fod yn rhan o sefydliad mor gadarn.Mae’r swydd  yn wych, ac mae’r sefyllfaoedd gwahanol o ddydd i ddydd yn cynnig amgylchedd gwaith sy’n heriol ond yn werthfawr. 

Pam ydych chi’n meddwl ei fod yn bwysig i’r Brifysgol bartneru â chlybiau chwaraeon lleol? 

Rydw i’n meddwl ei fod yn bwysig iawn.Nid yn unig oherwydd ei fod yn dda ar gyfer datblygiad y gêm a’i chwaraewyr ar y cyfan, ond oherwydd ei fod yn helpu i roi sylw i’r Brifysgol ledled ein rhanbarth ac yn bellach. 

Beth yw eich barn am chwaraewyr sy’n astudio ar yr un pryd â chwarae ar frig gêm rygbi? 

Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bwyslais ar ddatblygu chwaraewyr yn y gêm broffesiynol fodern ac rydw i’n meddwl bod addysg yn chwarae rhan allweddol yn hynny.Mwyaf fydd chwaraewr yn paratoi gyda’i astudiaethau, gwell fydd cyfle’r unigolyn hwnnw i lwyddo unwaith bydd ei yrfa chwarae drosodd. 

Mae cynllun TASS ardderchog y Brifysgol, sef y Cynllun Ysgoloriaeth i Athletwyr Talentog, yn rhoi’r cyfle i ddarpar athletwyr  gydbwyso chwaraeon ac astudio, gan eu galluogi i wireddu eu potensial yn y ddwy agwedd. 

Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 

Ymwelais i â’r Brifysgol am y tro cyntaf yn ystod diwrnod agored.Creodd y cyfleusterau a’r lleoliad argraff arna i’n syth.Roedd hanes y timau chwaraeon llwyddiannus a oedd yn dod o’r Brifysgol yn rhywbeth a darodd dant gyda fi, ac oherwydd hynny roedd astudio yma’n benderfyniad hawdd. 

Mae eich cariad yn gweithio i Leision Caerdydd. Oes cystadleuaeth gyfeillgar? 

Fel y gallwch chi ei ddychmygu, dwi’n siŵr, mae hyn yn gallu creu ychydig o gystadleuaeth gyfeillgar, ond dim byd rhy ddifrifol diolch byth.Gallwch chi ddychmygu sut mae pethau cyn gêm rhwng y Scarlets a’r Gleision.Bydd un ohonon ni’n mynd tipyn yn dawelach ar ôl y gêm, ond yn ffodus mae gan y Scarlets yr hawliau brolio yn ein tŷ ni ar hyn o bryd.