Ymunodd Paul Edwards â Chyfarwyddiaeth Ystadau a Rheoli Cyfleusterau Prifysgol Abertawe ym 1986 yn 22 oed ar ôl gweld swydd “Garddwr” yn cael ei hysbysebu yn y South Wales Evening Post. 

Dros y blynyddoedd, cododd drwy’r rhengoedd gan ymgymryd â chwrs MSc mewn Gwarchod a Rheoli’r Amgylchedd gyda chefnogaeth gan y Brifysgol.Bellach mae’n Rheolwr y Tiroedd ac yn falch dros ben o’r ffordd mae ef a’i dîm wedi helpu i ddatblygu a llunio Ystadau’r Brifysgol. 

Sut mae’r dirwedd wedi newid ers i chi ddechrau gweithio yma? 

Dyw’r dirwedd ddim wedi stopio newid mewn gwirionedd, er yn raddol;mae coed a blannais i pan ddechreuais wedi tyfu i fod rhwng 40 a 50 troedfedd bellach!  

Llun o Paul Edwards

Sawl person sydd yn eich tîm? 

Pan ymunais i â thîm y tiroedd ym mis Mai 1986, roedd 13 garddwr yr oeddent yn gofalu am rannau gwahanol o’r ystâd:y Gerddi Botaneg, yr Abaty a thiroedd Singleton, a thiroedd gwahanol neuaddau preswyl y myfyrwyr.Heddiw, rydyn ni’n cynnal ardal debyg gyda saith aelod o staff yn unig. 

Oes well gennych chi weithio yn yr haf neu yn y gaeaf, a ph’un yw eich hoff dymor a pham? 

Ar ôl gwlychu cynifer o weithiau, mae’n gas gen i’r hydref a’r gaeaf yn enwedig, gan ein bod ni’n cael cymaint o law yn lle boreau rhewllyd, clir ac oer, mae’n debyg. 

Does dim ots gen i os bydd hi’n rhewi ac rydw i’n gwybod bod angen glaw arnon ni, ond mae hi wir yn gwneud yr amodau gwaith yn anodd ac yn aml bydd hi’n amharu ar yr hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni, felly mae’r gwanwyn a’r haf bob amser wedi bod yn hoff adegau’r flwyddyn i mi. 

Mae’r prosiect i blannu coed derw ar gyfer y canmlwyddiant yn dathlu’r coed derw yn y Brifysgol. Pam maen nhw mor bwysig? 

Mae Campws Singleton wedi’i leoli mewn parcdir ac mae ei hen goed derw yn rhan annatod o’i gymeriad.Yn ei thro, mae’r Goeden Dderw Gymreig, Quercus Petraea yn rhan o’n diwylliant.Gwnaeth Ystâd Vivian drefnu gwaith plannu’r coed hyn fwy na 100 mlynedd yn ôl, gan roi i ni’r esiamplau trawiadol rydyn ni’n eu gweld heddiw. 

Yn anffodus, oherwydd eu bod yn hen iawn mae llawer o’r coed derw hyn yn dechrau dirywio – fyddan nhw ddim yn para am byth – felly pan fydd y Brifysgol yn dathlu ei hail ganmlwyddiant, mae’n annhebygol iawn y bydd llawer ohonyn nhw ar ôl. 

Er mwyn sicrhau bod nifer o rywogaethau cynhenid yn cael  eu cadw ar gyfer y dyfodol, mae’r Brifysgol yn dathlu ei chanmlwyddiant drwy blannu 25 coeden dderw ar Gampws Singleton a 25 arall ar Gampws y Bae. 

Sut mae eich gwaith yn amrywio rhwng dau gampws y Brifysgol? 

Oherwydd ei dirwedd gweddol newydd, does dim llawer o waith cynnal ar Gampws y Bae, ond eto i gyd mae ganddo ei heriau ei hun gan ei fod ar y traeth i bob pwrpas! 

Mewn cymhariaeth, mae mwy o waith i’w wneud ar Gampws Singleton gyda’i ardaloedd dwysach o ran y planhigion, a’r coed a’r cloddiau aeddfed. 

Beth yw’r peth gorau am eich swydd? 

Y gallu i roi siâp, yn llythrennol i’r amgylchedd a’i wella, er mwyn i bawb ei fwynhau am flynyddoedd i ddod. 

Minnau yw’r Rheolwr Tiroedd sydd wedi gweithio i’r Brifysgol am y cyfnod hwyaf, ac os bydda i’n gadael tiroedd y Brifysgol mewn gwell cyflwr nag oedden nhw pan ddechreuais i, bydda i wedi cyflawni fy ngwaith.