Cydnabyddir yr Athro Olek Zienkiewicz yn rhyngwladol fel un o brif ddatblygwyr Dull yr Elfen Feidraidd, techneg gyfrifiadurol sydd wedi gweddnewid gweithdrefnau dylunio a dadansoddi ym meysydd peirianneg sifil, fecanyddol, awyrofodol a mwy ers y 1960au.  
 
Fe'i ganed i dad o Wlad Pwyl a Saesnes yn Lloegr ym 1921 ac astudiodd Beirianneg Sifil yng Ngholeg Imperial. Gwnaeth ddarlithio am gyfnod yn Adran Peirianneg Prifysgol Caeredin a mwynhau gyrfa yn yr Unol Daleithiau cyn cael ei ddenu i ddychwelyd i'r DU gan dwf y sector addysg uwch yno ac, yn benodol, gan gwmpas swydd Athro Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe.  

Llun pen o Olek Zienkiewicz

Ychydig ar ôl iddo gyrraedd Abertawe ym 1961, derbyniodd fyfyriwr PhD ifanc o Tsieina, Y. K. Cheung, a fyddai'n gweithio dan arweiniad yr Athro Zienkiewicz ar yr ymchwil gyntaf i'r elfen feidraidd yn Abertawe ac yn cydweithio ar yr argraffiad cyntaf o The Finite Element Method, traethawd sydd bellach yn glasur.  

I ddechrau, roedd y dull yn dilyn ymagwedd draddodiadol peirianneg strwythurol ond, wrth i'r sylfaen fathemategol gael ei deall, gwelwyd ei bod yn bosib rhoi’r dull ar waith mewn disgyblaethau eraill.  
 
Mae'r fethodoleg yn parhau i fod yn bwnc ymchwil sy'n ffynnu ac mae'n meddu ar gryn botensial mewn meysydd gwyddonol newydd, gan gynnwys peirianneg fiofeddygol a'r gwyddorau bywyd.  

Etholwyd Zienkiewicz yn Gymrawd gan y Gymdeithasol Frenhinol ym 1978. O ganlyniad i'w waith sefydlol, mae Adran Peirianneg Sifil Prifysgol Abertawe'n un o ganolfannau mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer ymchwil i'r elfen feidraidd hyd heddiw.