Graddiodd Nicholas Jones (neu Nicky Wire) o Brifysgol Abertawe gyda BSc mewn Gwleidyddiaeth ym 1990. Ef yw cyfansoddwr caneuon a basydd y band roc Manic Street Preachers.  

Ar ôl dod at ei gilydd ym 1986, aeth y band ymlaen i sicrhau llwyddiant beirniadol a masnachol,  gan ennill 11 o wobrau NME, wyth gwobr Q a phedair gwobr BRIT dros y blynyddoedd. Yn ogystal, enwebwyd y band am wobr Mercury ym 1996 a 1999.  

Cyflwynwyd gradd er anrhydedd i Nicky Wire gan Brifysgol Abertawe yn ystod cyngerdd a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe yn 2005. Disgrifiodd y wobr fel ‘ffordd wych o ddechrau sioe’.  

Nicky Wire mewn siwt wen o flaen blodau

Beth oedd eich trywydd i Brifysgol Abertawe? 

Er i mi gael dau A ac un B yn fy arholiadau Safon Uwch yn y diwedd, roeddwn wedi derbyn lle yng Ngholeg Polytechnig Llongborth (Portsmouth) gan fod fy ngraddau amcangyfrifedig yn wael ond, ar ôl bod yno am bedair wythnos, roeddwn yn gweld eisiau Cymru'n ormodol. Roedd fy mrawd wedi mynd i Abertawe a mwynhau ei hun yn fawr, felly llwyddais i newid fy newis a mynd yno.  

Beth yw eich hoff atgofion o'ch amser yn Abertawe? 

Y traeth, pentref y Mwmbwls, arcêd ddifyrion Shipley's, siop sglodion Lôn Sgeti, clwb nos Cinderella’s, Marchnad Abertawe, siop gerddoriaeth Derricks, siop gitarau John Ham a chaffi Kardomah, gerddi Clun, mynd am dro'n aml, ffrindiau da.  

Gwnaethoch raddio mewn gwleidyddiaeth. Ydy hynny wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth? 

Mae fy ngradd mewn gwleidyddiaeth wedi cael dylanwad mawr ar fy ngwaith. Roedd yn rhywbeth i gyfeirio ato a'i ddadansoddi wrth ysgrifennu.  

Mae eich gwaith ysgrifennu'n llawn cyfeiriadau llenyddol. Pa lenorion sydd wedi dylanwadu arnoch fwyaf? 

R.S. Thomas, Dylan Thomas, Albert Camus, Susan Sontag, Greil Marcus, Sylvia Plath, Philip Larkin, caneuon Chuck D a Bob Dylan – mae'r rhestr yn ddiddiwedd. 

Os nad oeddech wedi llwyddo ym maes roc a rôl, beth byddech wedi'i wneud? 

Mwy na thebyg, byddwn wedi bod yn was sifil neu'n gynghorydd gwleidyddol. Efallai y byddwn wedi bod yn newyddiadurwr neu'n lanhawr.  

Gwnaethoch berfformio ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Hydref 1990. Sut brofiad oedd perfformio lle roeddech newydd raddio? 

Roedd yn wych dychwelyd i berfformio yn Abertawe ond roedd hyd yn oed yn well pan wnaethom gynnal cyngerdd yn Stadiwm Liberty yn y ddinas yn 2016. Mae gennyf lawer o atgofion emosiynol byw o Abertawe ac mae'n bleser bob tro rwyf yn dychwelyd.