Mae Dr Mohammad Al Sallakh yn ymchwilydd yn hyb BREATHE ar gyfer data iechyd anadlol ym Mhrifysgol Abertawe.  

Mae ef wedi datblygu Arsyllfa Asthma Cymru fel cyfrwng ar gyfer ymchwilio i asthma a'i oruchwylio.  

Datblygwyd yr arsyllfa er mwyn ymchwilio i hynt cleifion ag asthma yng Nghymru a'i archwilio'n drylwyr er mwyn helpu i wella ansawdd a chydraddoldeb gofal asthma a llywio ymchwil glinigol a chynlluniau gwasanaethau iechyd.  

Sut dechreuodd eich diddordeb yn eich maes? 

Llun pen o Mohammad Al Sallakh

Wrth i mi ddatblygu Arsyllfa Asthma Cymru yn ystod cyfnod fy PhD, roedd fy niddordeb yn cynyddu mewn data iechyd poblogaethau a sut mae wedi newid, a hynny'n aruthrol, ein ffyrdd o ddeall iechyd a chlefydau, cynnal astudiaethau epidemiolegol a gwerthuso ymyriadau clinigol ac ymyriadau iechyd cyhoeddus.  

Beth hoffech i'ch gwaith ymchwil ei gyflawni?  

Rwyf am feithrin dealltwriaeth y gellir ei rhoi ar waith sydd o fudd i bobl ag asthma a chlefydau anadlol. Rwyf hefyd yn rhan o ymdrechion ar y cyd ledled y DU i hwyluso defnydd atgynyrchadwy o ddata iechyd anadlol at ddibenion gwaith ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf.  

Beth yw eich pwyslais ar hyn o bryd? 

Rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar asthma a chlefydau anadlol eraill, yn ogystal â Covid-19 yn ddiweddar. Mae'r rhain yn anhwylderau enghreifftiol y mae data iechyd poblogaethau'n amhrisiadwy iddynt. Mae gennyf ddiddordeb penodol mewn anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yng nghyd-destun asthma. Ar ben hynny, rwyf wedi bod wrthi'n datblygu adnoddau i hwyluso gwaith ymchwil atgynyrchadwy yn fy maes.